Thomas Edison
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Thomas Alva Edison)
Ffisegydd a dyfeisydd Americanaidd oedd Thomas Alva Edison (11 Chwefror 1847 – 18 Hydref 1931), a aned ym Milan, Ohio. Cytunir yn gyffredinol ei fod y dyfeisydd mwyaf cynhyrchiol a welwyd erioed. Mae ei mil a rhagor o batentau yn cynnwys y gramoffon (1877), y bylb trydan (1879), y meicroffon a'r falf.