Thomas Glyn Watkin

Oddi ar Wicipedia
Thomas Glyn Watkin
Ganwyd1952 Edit this on Wikidata
Cwm-parc Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • André Grelon Edit this on Wikidata
Galwedigaethbargyfreithiwr, ymchwilydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru Edit this on Wikidata

Cyfreithiwr a Chwnsel cyntaf Llywodraeth Cymru yw'r Athro Thomas Glyn Watkin (ganwyd 1952). Cychwynodd ar ei swydd fel Cwnsel yn Ebrill 2007. Fe'i ganed yng Nghwmparc, Rhondda Cynon Taf. Mae hefyd yn offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru.

Gan weithio oddi fewn i Swyddfa Cwnsel y Gyfraith, rhan o Lywodraeth Cymru, mae'r Athro Watkin yn gyfrifol am ddrafftio rhaglen ddeddfwriaethol, yn dilyn rhoi Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ar waith.

Addysg[golygu | golygu cod]

Astudiodd y gyfraith yn Ngholeg Penfro, Rhydychen lle y cafodd ei wneud yn Ysgolor Oades a Stafford (1971-1974); yno hefyd y derbyniodd BA (1974), BCL (1975) ac MA (1977) o Brifysgol Rhydychen. Fe'i galwyd i'r bar yn y Deml Fewnol yn 1976.

Gwaith[golygu | golygu cod]

Rhwng 1975 a 2004 bu'n ddarlithydd, yn uwch-ddarlithydd, yn Ddarllenwr ac yna'n Athro Prifysgol yn Ysgol y Gyfraith, Prifysgol Caerdydd. Ar yr un pryd, gweithiau fel Cynorthwyydd Cyfreithiol Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru rhwng 1981 a 1998. Fe'i penodwyd yn Athro craidd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Bangor yn 2004.[1]

Ei arbenigedd yw hanes y gyfraith (gan gynnwys hanes cyfraith y Rhufeiniaid) a chyfraith sifil. Mae'n aelod o Gymdeithas Seldon, yn Ysgrifennydd a Thrysorydd Cymdeithas Hanes Cyfraith Cymru, Cymdeithas Hanes Cyfraith iwerddon ac yn aelod o fwrdd golygyddol Journal of Legal History. Fe'i cyfetholwyd y 'Academi Cyfreithwyr Preifat Milan a Pavia' yn 2002.[2][3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Prifysgol Bangor: Thomas Glyn Watkin". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-21. Cyrchwyd 2015-09-17.
  2. www.law.cf.ac.uk; gwefan Ysgol y Gyfraith, Caerdydd; adalwyd 2015
  3. Cymdeithas Hanes Cyfraith Cymru; adalwyd 2015