Theophilus Jones

Oddi ar Wicipedia
Theophilus Jones
Ganwyd18 Hydref 1759 Edit this on Wikidata
Aberhonddu Edit this on Wikidata
Bu farw15 Ionawr 1812 Edit this on Wikidata
Aberhonddu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg Crist, Aberhonddu Edit this on Wikidata
Galwedigaethhanesydd Edit this on Wikidata
TadHugh Jones Edit this on Wikidata
Cartref Theophilus Jones yn Nhregaron, tua 1885.

Hanesydd o Gymro sy'n adnabyddus fel awdur llyfr ar hanes Brycheiniog, ei sir enedigol, oedd Theophilus Jones (1759 - 1812). Roedd yn wŷr i Theophilus Evans (1693 - 1797), awdur y llyfr enwog Drych y Prif Oesoedd.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Theophilus Jones yn Aberhonddu yn 1759. Roedd ei dad Hugh Jones yn fab-yng-nghyfraith Theophilus Evans. Etifedodd Hugh lawer o ysgrifau hynafiaethol ei dad-yng-nghyfraith a throsglwyddodd hwy i'w fab yntau, Theophilus Jones.

Addysgwyd Theophilus Jones yng Ngholeg Crist yn ei dref enedigol. Yno daeth yn gyfaill oes i hynafiaethydd arall, Edward Davies ("Celtic Davies").

Gwaith mawr Theophilus Jones yw A History of the County of Brecknock (2 gyfrol, 1805, 1809). Mae'n waith ysgolheigaidd o safon uchel sy'n ffynhonnell bwysig i haneswyr. Cyfranodd nifer o bapurau ar hanes Cymru i gylchgronau dysgedig hefyd, yn cynnwys y cylchgrawn gwladgarol The Cambrian Register.

Casglai Theophilus Jones lawysgrifau Cymraeg hefyd. Y diddordeb hyn yn hanes a llenyddiaeth Brycheiniog a ddaeth ag ef i gysylltiad â'r hanesydd Thomas Price (Carnhuanawc). Gohebai'n gyson â sawl awdur a hanesydd arall, yn cynnwys Gwallter Mechain.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Theophilus Jones, A History of the County of Brecknock (2 gyfrol, 1805, 1809)
  • Edwin Davies, Theophilus Jones (1905). Cyfrol goffa sy'n cynnwys detholiad o'i ohebiaeth.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]