Theobald Wolfe Tone

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Wolfe Tone

Cenedlaetholwr Gwyddelig ac un o brif arweinwyr Cymdeithas y Gwyddelod Unedig oedd Theobald Wolfe Tone, a adwaenir fel rheol fel Wolfe Tone (20 Mehefin, 176319 Tachwedd, 1798).

Ganed ef yn ninas Dulyn, i deulu Protestanaidd, ac astudiodd y gyfraith yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, gan gymhwyso fel bargyfreithiwr. Yn 1791, cyhoeddodd Tone bamffled Argument on Behalf of the Catholics of Ireland, gan ddadlau dros undod rhwng Protestaniaid a Chatholigion. O ganlyniad i hyn, ffurfiwyd Cymdeithas y Gwyddelod Unedig mewn cyfarfod yn ninas Belffast ar 14 Hydref 1791, dan arweiniad Tone, Thomas Russell (1767-1803), Napper Tandy ac eraill.

Bwriad cyntaf y Gymdeithas oedd gweithio tuag at ddiwygiadau Seneddol, ond yn raddol troes at syniadau mwy radicalaidd Tone ei hun, ac anelu at greu gweriniaeth annibynnol. Yn 1794, daeth y Gymdeithas i gysylltiad ag arweinwyr y Chwyldro Ffrengig, ond bradychwyd eu trafodaethau ac yn 1795 bu raid i Tone ffoi i'r Unol Daleithiau. Yn Chwefror 1796, aeth i Ffrainc, lle cyfarfu a rhai o arweinwyr y Chwyldro ym Mharis. Rhoddwyd comisiwn yn y fyddin Ffrengig iddo.

Hwyliodd am Iwerddon gyda'r Cadfridog Hoche yn 1796, ond bu raid i'r llynges ddychwelyd i Ffrainc wedi methu glanio oherwydd tywydd garw. Pan ddechreuodd Gwrthryfel Gwyddelig 1798, hwyliodd Tone am Iwerddon gyda'r Llynghesydd Bompard. Cyfarfu'r llongau Ffrengig a llongau rhyfel Prydeinig ger Buncrana ar Lough Swilly ar 12 Hydref, 1798, a chymerwyd Tone yn garcharor pan ildiodd y llong yr oedd arni i'r Prydeinwyr.

Rhoddwyd ef ar ei brawf yn Nulyn, a dedfrydwyd ef i'w grogi, gan wrthod ei gais am farwolaeth fwy anrhydeddus trwy gael ei saethu. Cyn gweithredu'r ddedfryd, bu Tone farw o'i anafiadau wedi torri ei wddf â chyllell yn y carchar. Ystyrir ef yn un o sylfaenwyr cenedlaetholdeb Gwyddelig modern.