Theo Bos

Oddi ar Wicipedia
Theo Bos
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnTheo Bos (2018)
Dyddiad geni22 Awst 1983
Manylion timau
DisgyblaethTrac
RôlReidiwr
Math seiclwrSbrint
Prif gampau
Pencampwr y Byd, pum gwaith
Golygwyd ddiwethaf ar
20 Medi, 2007

Seiclwr trac o'r Iseldiroedd ydy Theo Bos (ganwyd 22 Awst 1983 yn Hierden, Yr Iseldiroedd), mae'n enillydd medal arian yn y Gemau Olympaidd ac yn bencampwr y byd pum gwaith.

Enillodd y fedal arian yn sbrint Gemau Olympaidd 2004.

Enillodd y fedal aur yn y sbrint a'r treial amser 1 km (neu kilo) ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2004. Y flwyddyn canlynol, enillodd y fedal aur yn y pursuit unigol, a medal arian ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2005.

Ym Mhencampwriaethau Trac y Byd, UCI 2006, enillodd y fedal aur yn y ras keirin, gan gyflawni "Coron Drifflig" o fuddugoliaethau (gan iddo fod yn Bencampwr y Byd yn sbrint, kilo a keirin). Enillodd y ras y argyhoeddiadol ar ôl cyflynmu â dau lap i fynd, a chwythu'r cystadlwyr eraill i ffwrdd, gan ennill â bwlch llydan rhynddo ef a'i gystadleuwyr a chael digon o amser i godi ei ddwylo i chwifio at y dorf wrth groesi'r linell. [1] Disgrifiodd ei cyd-gystadlwr Ffrangeg, ac enillydd y fedal efydd, Arnaud Tournant, berfformiad Bos fel "yr un gorau iddo weld ers amser maith" (Saesneg: "the best I’ve seen in a very long time.") Ail-enillodd ei deitl sbrint hefyd.

Ar 16 Rhagfyr, 2006, torodd Bos record seiclo trac y byd 200 metr, yn ystod cymalau ymgymhwyso sbrint Cypan y Byd yn Moscow. Clociodd Bos amser o 9.772 eiliad (ar ôl i nam cyfrifiadurol roi amser annhebygol o 9.086 eiliad iddo), a curodd y record a ddelwyd gan Ganadiwr, Curt Harnett am 11 mlynedd gynt. Yn dilyn hyd, datganodd Bos mai'r 200 m Following his record setting run Bos declared the 200 m oedd y "record eithafaf" ar gyfer seiclwyr trac. [2] Archifwyd 2007-09-07 yn y Peiriant Wayback. Pum diwrnod yn ddiweddarach, anrhydeddwyd Bos â gwobr Chwaraewr y Flwyddyn, yr Iseldireoedd.

Mae ei frawd Jan Bos, hefyd yn seiclwr trac ond yn bennaf mae'n sglefriwr cyflymder.

Canlyniadau[golygu | golygu cod]

Pencampwriaethau Trac y Byd, UCI
Treial Amser 1 km: 2003 (3ydd), 2005 (1af)
Treial Amser (Iau) 1 km: 2001 (1af)
Keirin: 2006 (1af), 2007 (2il)
Sbrint: 2004 (1af), 2006 (1af), 2007 (1af)
Pursuit Tîm: 2004 (2il), 2005 (1af)
Sbrint Tîm: 2005 (2il)
Gemau Olympaidd
Sbrint: 2004 (2il)
Clasuron Trac, Cwpan y Byd, UCI
Cymal Los Angeles, Treial Amser 1 km: 2005 (1af)
Cymal Los Angeles, Sbrint Tîm: 2005 (1af)
Cymal Manceinion, Treial Amser 1 km: 2004 (2il)
Cymal Manceinion, Sbrint: 2005 (1af)
Cymal Manceinion, Sbrint Tîm: 2005 (2il)
Cymal Moscow, Sbrint Tîm: 2004 (2il), 2006 (2il)
Cymal Moscow, Treial Amser 1 km: 2003 (2il), 2004 (1af)
Cymal Moscow, Sbrint: 2004 (3rd), 2006 (1af)
Cymal Sydney, Keirin: 2005 (1af), 2006-1 (1af), 2006-2 (1af)
Cymal Sydney, Sbrint: 2005 (1af)
Cymal Sydney, Sbrint Tîm: 2006-1 (1af), 2006 (2il)
Pencampwriaethau Trac Ewrop
Treial Amser 1 km (Odan 23): 2002 (2il), 2003 (1af)
Keirin (Odan 23): 2002 (1af), 2003 (2il)
Sbrint (Odan 23): 2002 (2il), 2003 (1af)
Pencampwriaethau Cenedlaethol Trac yr Iseldiroedd
Treial Amser 1 km: 2003 (1af)
Keirin: 2004 (1af), 2006 (1af)
Sbrint: 2003 (1af), 2004 (1af), 2006 (1af)
Eraill
Masters of Sbrint: 2007 (1af)
Rotterdam Sbrint Cup: 2007 (1af)
Dernyrace Wierden: 2006 (3rd)
Rhagflaenydd:
Yuri van Gelder
Chwaraewr y Flwyddyn, yr Iseldireoedd
2006
Olynydd:
I ddod

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod]