Teledu

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Theledu)
Set deledu o ddiwedd y 1950au
Teledu "sinema cartref", 2007
Mae'r term 'teledu' yn derm eang ac mae'r erthygl hon yn trafod holl agweddau'r byd darlledu gweledol: y rhaglenni, darlledu, cwmniau teledu a'r set deledu.

Cyfrwng telathrebu o drosglwyddo lluniau symudol, ffilm a llais yw'r teledu. Gall y gair gyfeirio at y "bocs" neu'r set deledu ei hun neu at y cynnwys, sef y rhaglenni. Hyd at 21g, yng Nghymru, cânt eu darlledu o drosglwydydd i erial a gysylltwyd i'r teledu (teledu "terrestial") gyda gwifren; erbyn 2004 roedd 21.4% o holl gartrefi gwledydd Prydain yn derbyn teledu lloeren. Erbyn 2012, gyda datblygiad technoleg band-llydan, roedd y teledu clyfar yn galluogi cyfuno'r we ochr yn ochr â'r rhaglenni traddodiadol hyn. Mae'r term yn cyfeirio at holl agweddau'r byd darlledu gweledol, gan gynnwys y rhaglenni, darlledu, cwmniau teledu a'r set deledu ei hun.

Hanes teledu[golygu | golygu cod]

Prif: Set deledu

Ar ôl datblygiad radio fe weithiodd sawl dyfeisiwr i ddatblygu ffordd o ddarlledu lluniau gyda'r sŵn. Un nodweddiadol yng ngwledydd Prydain oedd yr albanwr John Logie Baird. Yn gyffredinol fe gyfrir Philo T Farnsworth o Rigby, Idaho yn yr Unol Daleithiau fel dyfeisydd y system modern o deledu ym 1928. Roedd teledu ar gael i'r cyhoedd o'r tridegau hwyr ymlaen ac mae nawr yn rhan cyffredin o fywydau pobl trwy'r byd.

Dechreuodd darlledu lluniau du a gwyn ond newidiwyd i luniau lliw yn y 1960au. Yn y 1970au fe ddatblygwyd ffurf masnachol i'r cyhoedd recordio rhaglenni teledu - y recordydd caset fideo (neu VCR yn Saesneg) - a defnyddiwyd y casetiau hyn i werthu ffilmiau i'r cyhoedd i wylio gartref. Erbyn y 200au defnyddid DVDau i wylio ffilmiau ac erbyn y 2010au lawrlwythwyd ffilmiau 'r we e.e. Netflix. Mae datblygiadau diweddar ym myd teledu yn cynnwys teledu digidol, teledu 3D, a theledu cadraniad uchel (HDTV).

Bathodd Cassie Davies, Dan Richards ac Urien Wiliam y term 'teledu' yn 1953 a hynny ar wahan i'w gilydd.[1]

Agweddau cymdeithasol[golygu | golygu cod]

Mae ymchwilwyr o brifysgol Maryland wedi darganfod bod pobl sy'n gwylio teledu yn fwy anhapus na phobl sy'n darllen ac yn cymdeithasu.[2]

Teledu yn y DU[golygu | golygu cod]

Mae yna ddau fath o orsaf - y rhai 'daearol' a'r rhai 'lloeren'. Mae'r gorsafoedd daearol yn cael eu darlledu ar y ddaear trwy ddefnyddio rhwydwaith o drosglwyddyddion ar fastiau (fel arfer wedi eu lleoli ar fynyddoedd neu dir uchel). Defnyddir dros fil o orsafoedd trosglwyddo drwy'r DU, gyda dros 200 ohonynt yng Nghymru gan gynnwys y prif orsafoedd canlynol:

  • Gwenfo
  • Mynydd Cilfai
  • Carmel
  • Preseli
  • Blaenplwyf
  • Llanddona
  • Moel y Parc

Gellir gwylio'r sianeli teledu daearol yma trwy ddefnyddio erial confensiynol.

I wylio gorsafoedd lloeren rhaid cael disgl lloeren i dderbyn y signalau sy'n cael eu darlledu o glwstwr o loerennau (lloerennau Astra yw'r rhai mwyaf poblogaidd) yn y gofod.

Yn ogystal mae cwmniau 'cêbl' yn darparu gwasanaethau teledu ochr yn ochr â gwasanaethau teleffon mewn ardaloedd poblog (Virgin Media yw'r prif gwmni cebl, er bod rhai cwmniau llai hefyd i'w cael mewn rhai mannau).

Ar hyn o bryd yn y DU mae yna newid technoleg darlledu y gorsafoedd daearol o analog i ddigidol. Mae hwn yn digwydd yn raddol a bwriedir gorffen y gwaith yn 2013. Mae mwy o fanylion ar sawl wefan yn cynnwys safle Digital UK a hon Archifwyd 2007-06-08 yn y Peiriant Wayback.. Mae Cymru yn cael ei heffeithio o ganol 2009 hyd at hydref 2010.

Rhaid cael teledu newydd sy'n derbyn signalau digidol neu brynu blwch arbennig sy'n galluogi i setiau teledu analog dderbyn y signalau digidol.

Rhai o orsafoedd teledu y DU[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-17. Cyrchwyd 2012-07-16.
  2. Unhappy People Watch TV, Happy People Read/Socialize Archifwyd 2009-05-02 yn y Peiriant Wayback., Prifysgol Maryland

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Chwiliwch am teledu
yn Wiciadur.