The Sun Also Rises

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Clawr yr argraffiad cynaf o The Sun Also Rises a gyhoeddwyd ym 1926 gan Scribner's, gyda siaced lwch a ddarluniwyd gan Cleonike Damianakes. Mae'r clawr yn defnyddio darluniad Helenistaidd a oedd i fod i awgrymu thema lled-rywiol.[1]

Nofel a ysgrifennwyd ym 1926 gan yr awdur Americanaidd Ernest Hemingway yw The Sun Also Rises. Mae'r nofel yn sôn am grŵp o Americaniaid a Phrydeiniaid sy'n teithio o Baris i Ŵyl Fermín ym Mhamplona i wylio'r teirw yn rhedeg a'r brwydrau teirw. Nofel fodernaidd ydyw, a chafodd hi adolygiadau cymysg pan gafodd ei chyhoeddi gyntaf. Dywedodd y bywgraffydd Jeffrey Meyers ei bod hi'n "recognized as Hemingway's greatest work",[2] a dywedodd yr ysgolhaig Linda Wagner-Martin mai nofel bwysicach Hemingway ydyw.[3] Cyhoeddwyd y nofel yn yr Unol Daleithiau ym mis Hydref 1926 gan dŷ cyhoeddi Scribner's. Blwyddyn ar ôl, ym 1927, cyhoeddwyd tŷ cyhoeddi Prydeinig o'r enw Jonathan Cape y nofel yn Lloegr o dan y teitl Fiesta. Ers hynny, argreffir hi'n gyson.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Leff (1999), 51
  2. Meyers (1985), 192
  3. Wagner-Martin (1990), 1
Book template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.