The Storr
Oddi ar Wicipedia
| The Storr (Skye) |
|
|---|---|
| Cyfieithiad | Dyn Mawr |
| Iaith | Hen Norwyeg |
| Testun y llun | Copa'r mynydd |
| Uchder (m) | 719 |
| Uchder (tr) | 2359 |
| Amlygrwydd (m) | 671 |
| Lleoliad | Ynysoedd Heledd |
| Map topograffig | Landranger 23; Explorer 408 409 |
| Cyfesurynnau OS | NG495540 |
| Gwlad | yr Alban |
| Dosbarthiad | Marilyn, Graham a HuMP |
Mae The Storr yn gopa mynydd a geir yn Trotternish ar Ynys Skye yn yr Alban; cyfeiriad grid NG495540. Mae yma enghraifft fendigedig o dirlithriad geolegol, un o'r rhain ydy'r tyrrau enwog a elwir yn "Hen Ŵr Storr".
Dosberthir copaon yr Alban yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Graham a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1]
Cynnwys |
Cerddwyr [golygu]
Ceir llwybr cadarn sy'n cychwyn o'r A855, i'r gogledd o Loch Leathan. Mae'n dirwyn i fyny'r llethrau coediog a cheir cip bob yn hyn a hyn o'r olygfa islaw. Ar ôl 1.6 kilometr down allan o'r coed ac i dirwedd tebyg i wyneb y lleuad.
Gweler hefyd [golygu]
- Rhestri copaon a sut y cânt eu dosbarthu
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 2,000'
- Rhestr Mynyddoedd yr Alban dros 3,000' (y Munros)