The Proud Valley

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
The Proud Valley
The Proud Valley.jpg
Cyfarwyddwr Pen Tennyson
Cynhyrchydd Michael Balcon
Ysgrifennwr Alfredda Brilliant
Louis Golding
Herbert Marshall
Serennu Paul Robeson
Edward Chapman
Simon Lack
Rachel Thomas
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Supreme Distributing Company
Dyddiad rhyddhau 6 Ebrill 1940
Amser rhedeg 77 munud
Iaith Saesneg

Ffilm a wnaed gan Ealing Studios am bentref glofäol yng Nghymoedd De Cymru ac a gynhyrchwyd yn 1940 yw The Proud Valley, gyda'r baswr Paul Robeson a Rachel Thomas yn serennu ynddi.

Cafodd y ffilm ei saethu ym Maesydd glo De Cymru ac mae'n adrodd stori glöwr croenddu (sef Paul Robeson neu "David Goliath") sydd hefyd yn ganwr arbennig o dda ac sy'n ymuno gyda'r côr meibion lleol. Mae'r ffilm yn dangos caledi bywyd y glöwyr a'u teuluoedd yr adeg honno.

Mae'r ffilm wedi'i lleoli ym 1938, yn union wedi Streic Gyffredinol y Deyrnas Unedig 1926 a'r Dirwasgiad Mawr.

Yn wahanol i ffilmiau Hollywood yr oes dangosodd hon realaeth bywyd y dyn croenddu a flynyddoedd yn ddiweddarach mynegodd Robeson mai hon oedd ei ffefryn gan ei bod yn dangos y croenddu a'r gweithiwr cyffredin mewn modd positif: "It depict the Negro as he really is—not the caricature he is always represented to be on the screen".