The Jackson 5

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Rhes uchaf o'r chwith i'r dde: Marlon, Jackie
Rhes waelod o'r chwith i'r dde: Tito, Michael, Jermaine

Roedd 'The Jackson 5 (a adwaenid hefyd fel "The Jackson Five" neu "The Jackson 5ive", ac yn hwyrach fel The Jacksons) yn grŵp pop teuluol Americanaidd o Gary, Indiana. Cawsant eu henwebu am Wobr Grammy ar ddwy achlysur. Enwau aelodau'r grŵp oedd Jackie, Tito, Jermaine, Marlon a Michael. Yn wreiddiol, defnyddiodd y grŵp yr enw The Jackson Brothers, a dim ond y tri brawd hynaf oedd ynddo. Perfformiodd y grŵp o 1966 tan 1990, gan ganu caneuon R&B, soul, pop ac yn ddiweddarach disco. Roedd The Jackson 5 yn un o brif grŵpiau pop y 1970au,[1] ac arweiniodd llwyddiant y band at yrfa unigol i'r prif leiswyr Jermaine a Michael, gyda Michael Jackson yn cymryd mantais o'i enwogrwydd a'i lwyddiant cynnar er mwyn cael mwy fyth o lwyddiant fel artist unigol pan yn oedolyn.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Huey, Steve. "The Jackson 5". Macrovision Corp. Adalwyd 2008-05-08

Dolenni Allanol[golygu]