History of the Gwydir Family

Oddi ar Wicipedia
History of the Gwydir Family

Llyfr hanes teuluol gan Syr John Wynn o Wydir (1553-1627) yw History of the Gwydir Family, a ysgrifennwyd yn negawdau olaf yr 16g. Mae'n gyfrol sy'n rhoi golwg unigryw ar gyflwr cymdeithas gogledd Cymru yn yr Oesoedd Canol Diweddar a dechrau'r Cyfnod Modern.

Ni ellir fod yn sicr pryd yn union y cafodd yr hanes ei lunio, ond credir i Syr John ddechrau ei sgwennu yn y 1580au ar ôl iddo etifeddu ystâd Gwydir ac iddo ychwanegu deunydd o bryd i'w gilydd. Ni chafodd ei gyhoeddi yn oes yr awdur, ond ceir nifer o gopïau o'r testun mewn sawl llawysgrif. Fe'i cyhoeddwyd am y tro cyntaf gan Dames Barrington yn 1770, a chafwyd sawl argraffiad arall ar ôl hynny (1781, 1827, 1878, 1927, 1990).

Prif amcan Syr John wrth sgwennu'r llyfr oedd cadarnhau ei hawl i fod yn ddisgynnydd uniongyrchol i dywysogion Gwynedd ac felly o linach brenhinol. Ond ymddengys iddo wyrio rhai o'r achau yn y llyfr i brofi hynny ac nid oedd pawb yn barod i dderbyn ei honiadau. Cyflwynodd Tomos Prys o Blas Iolyn achos llys yn ei erbyn a bu rhaid i Syr John amddiffyn ei hun yn y llys. Ond enillodd yr achos a chafodd ei gydnabod yn gyfreithiol fel prif etifedd gwrywaidd Talaith Gwynedd ac felly, yn ôl Cyfraith Hywel, yn Dywysog de jure Gwynedd. Fodd bynnag, roedd disgynyddion Dafydd Goch, mab llwyn a pherth y Tywysog Dafydd ap Gruffudd, yn hawlio'r fraint honno yn ogystal.

Mae'r History yn gyfrol unigryw. Dyma'r unig gronicl o'i fath i gael ei ysgrifennu yn y Cyfnod Modern cynnar yng Nghymru. Ceir ynddo bwyslais ar y berthynas - a'r gwrthdaro - rhwng teuluoedd uchelwrol a'r effaith a gafodd hynny ar gymdeithas. Ond yn ogystal mae Syr John, yn ei ffordd unllygeidiog ei hun, yn rhoi i ni bortreadau cofiadwy o'r prif gymeriadau a'u ymdrechion i ymdopi ac addasu fel etifeddwyr hen draddodiadau mewn cornel o'r wlad a ystyrid yn wyllt ac anghysbell wrth i'r drefn o'u cwmpas newid. Gwelir cymdeithas newydd yn ymffurfio, a geisiodd fanteisio i'r eithaf â'r cyfleu i ymddyrchafu dan y drefn newydd, yn sgîl buddugoliaeth Harri Tudur ar Faes Bosworth a roddodd derfyn ar y cyfreithiau penyd, hiliol, a oedd yn gostwng y Cymry i statws israddol yn eu gwlad eu hunain. Yn ogystal â bod yn ffynhonnell hanesyddol pwysig, mae'r llyfr yn darllen difyr sy'n cael ei ystyried yn glasur.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Syr John Wynn, History of the Gwydir Family and Memoirs, gol. J. Gwynfor Jones, Cyfres The Welsh Classics (Gwasg Gomer, 1990). Cyfrol ragorol gyda rhagymadrodd a nodiadau.