The Glee Project
| The Glee Project | |
|---|---|
Logo'r Glee Project |
|
| Fformat | Sioe dalent realiti rhyngweithiol |
| Crëwyd gan | Ryan Murphy |
| Cyflwynwyd gan | Robert Ulrich |
| Beirniaid | Ryan Murphy Robert Ulrich Zach Woodlee Nikki Anders Ian Brennan |
| Gwlad/gwladwriaeth | Yr Unol Daleithiau |
| Iaith/ieithoedd | Saesneg |
| Nifer cyfresi | 1 |
| Nifer penodau | 10 |
| Cynhyrchiad | |
| Cynhyrchydd gweithredol |
Michael Davies Shauna Minoprio Ryan Murphy Dante Di Loreto |
| Cynhyrchydd | Ryan Murphy |
| Lleoliad(au) | Los Angeles |
| Amser rhedeg | 44 munud |
| Darllediad | |
| Sianel wreiddiol | Oxygen |
| Darllediad gwreiddiol | 12 Mehefin 2011 – presennol |
| Statws | Ymlaen |
| Cysylltiadau allanol | |
| Gwefan swyddogol | |
Cyfres deledu realiti Americanaidd a gynhyrchir gan Oxygen yw The Glee Project, sydd a'i fformat ar ffurf clyweliad ar gyfer cyfres deledu FOX, Glee. Bwriad y cynyrchyddion oedd i'r gyfres gael ei darlledu gyntaf ym mis Mai 2011 hwyr, ond gwnaed hynny ar 12 Mehefin 2011. Yng Nghanada, darlledwyd y gyfres ar sianel Slice ar 26 Mehefin 2011 ac yn y Deyrnas Unedig ar Sky One ar 14 Mehefin 2011, gyda darllediad dwy awr estynedig, lle dangoswyd y broses clyweld o'r Prif 12 yn yr awr gyntaf.
Mae cynhyrchwyr gweithredol Glee, Ryan Murphy a Dante Di Loreto, hefyd yn gynhyrchwyr gweithredol ar gyfer The Glee Project. Mae cynhyrchydd castio Glee', Robert Ulrich, hefyd yn gynhyrchydd castio ar gyfer y prosiect.[1][2]
Enillodd Damian McGinty a Samuel Larsen y gyfres gyntaf. Daeth Lindsay Pearce ac Alex Newell yn ail, a byddent yn serennu mewn dwy bennod o Glee. Enillodd Cameron Mitchell y gystadleuaeth "cefnogwr mwyaf hoffus" a'r wobr o $10,000 (tua £6,300) ar ôl iddo roi'r ffidl yn y to yn ystod pennod 7.[3]
Cynnwys |
Y broses [golygu]
Rhoddir thema i bob pennod The Glee Project sy'n adrodd am ddigwyddiadau sydd wedi digwydd o fewn cyfnod o wythnos.
- Aseiniad gwaith cartref
- Mae cystadleuwyr yn cael "aseiniad gwaith cartref" sy'n cynnwys dysgu ac ymarfer darnau o gân. Ar ddechrau bob pennod, mae'r cystadleuwyr yn perfformio eu darnau o'r gân eu hunain o flaen gwestai dirgel o gast Glee. Y cystadleuwr sy'n rhoi'r gorau glas i'r gwaith cartref, hynny yw, y canwr a pherfformiwr gorau, yw'r enillwr, ac mae'n cael sesiwn un-i-un gyda'r seren wadd a darn mawr yn y fideo cerddoriaeth.
- Fideo cerddoriaeth (perfformiad grŵp)
- Wedyn, mae'r cystadleuwyr yn creu fideo cerddoriaeth sydd "wedi'i ysbrydoli gan berfformiadau Glee". Wrth baratoi ar gyfer y fideo cerddoriaeth, mae'r cystadleuwyr yn recordio darnau o gân mewn stiwdio broffesiynol gyda chynhyrchydd lleisiol Nikki (Hassman gynt) Anders. Maent hefyd yn dysgu coreograffi gyda Zach Woodlee a / neu Brooke Lipton, ei gynorthwyydd. Goruchwylir y broses gyfan gan gyfarwyddwr castio Glee, Robert Ulrich.
- Callbacks
- Yn ystod callbacks, datgelir y tri sydd yn y gwaelod. Cânt eu beirniadu gan Robert Ulrich a Zach Woodlee (ym mhennod 8, roedd Nikki Anders yn beirniadu) am eu perfformiadau. Rhoddir cân iddynt, ac mae'r rhaid iddynt ganu'r gân yma er mwyn "achub" eu hunain.
- Perfformiad cyfle olaf
- Mae'r tri sydd yn y gwaelod yn yr wythnos yn perfformio eu caneuon a bennwyd ymlaen llaw gan Ryan Murphy o flaen Murphy ei hunan. Gyda mewnbwn Woodlee a Ulrich, gwneir penderfyniad a ffarwelir i un o'r tri.
- Callbacks terfynol
- Yn wahanol i gystadleuaeth realiti eraill, nid yw cystadleuwyr yn cael gwybod yn uniongyrchol am eu dileu. Yn hytrach, cânt y tri sydd yn y gwaelod eu hysbysu pan fo'r "rhestr i fyny" ac yn darganfod eu ffawd fel a welant eu henw ar y rhestr. Ar ôl y callbacks terfynol, mae'r cystadleuydd yn canu prif ddarn cân Avril Lavigne, "Keep Holding On", tra bo gweddill y cystadleuwyr yn canu yn y cefn.
Cystadleuwyr [golygu]
| Cystadleuwr | Oedran | O | Canlyniad | Dyddiad ffarwelio | Cyfeiriadau |
|---|---|---|---|---|---|
| Damian McGinty, Jr. | 18 | Dinas Derry, Gogledd Iwerddon | Enillwr | N/A | [4] |
| Samuel Larsen | 19 | Los Angeles, California | Enillwr | N/A | [5] |
| Lindsay Pearce | 19 | Modesto, California | Yn ail | N/A | [6] |
| Alex Newell | 18 | Lynn, Massachusetts | Yn ail | N/A | [7] |
| Hannah McIalwain | 19 | Asheville, Gogledd Carolina | 8fed i fynd | 7 Awst '11 | [8] |
| Cameron Mitchell | 21 | Fort Worth, Texas | 7fed i fynd | 31 Gorffennaf '11 | [9] |
| Marissa von Bleicken | 19 | Efrog Newydd, Efrog Newydd | 6ed i fynd | 24 Gorffennaf '11 | [10] |
| Matheus Fernandes | 19 | Atlanta, Georgia | 5ed i fynd | 17 Gorffennaf '11 | [11] |
| McKynleigh Abraham | 19 | Paducah, Kentucky | 4ydd i fynd | 10 Gorffennaf '11 | [12] |
| Emily Vásquez | 22 | Efrog Newydd, Efrog Newydd | 3ydd i fynd | 26 Mehefin '11 | [13] |
| Ellis Wylie | 18 | Grayslake, Illinois | 2il i fynd | 19 Mehefin '11 | [14] |
| Bryce Ross-Johnson | 22 | Westlake Village, California | 1af i fynd | Mehefin 12, 2011 | [15] |
Penodau [golygu]
| Rhif. | Teitl | Nifer o wylwyr gwreiddiol (miliynau) |
Dyddiad darlledu gwreiddiol | Person sy'n gadael |
|---|---|---|---|---|
| 0 | Mehefin 12 2011 | N/A | ||
| Pennod arbennig oedd yn dangos y broses ddethol o'r gyfres newydd. | ||||
| 1 | 0.455[16] | Mehefin 12 2011 | Bryce | |
|
||||
| 2 | 0.527[16] | Mehefin 19 2011 | Ellis | |
|
||||
| 3 | 0.591[17] | Mehefin 26 2011 | Emily | |
|
||||
| 4 | 0.745[18] | 10 Gorffennaf 2011 | McKynleigh | |
|
||||
| 5 | 17 Gorffennaf 2011 | Matheus | ||
|
||||
| 6 | 1.270[19] | 24 Gorffennaf 2011 | Marissa | |
|
||||
| 7 | 31 Gorffennaf 2011 | Cameron | ||
|
||||
| 8 | 0.912[20] | 7 Awst 2011 | Hannah | |
|
||||
| 9 | 14 Awst 2011 | N/A | ||
|
||||
| 10 | 1.24[21] | 21 Awst 2011 | N/A | |
Yn ail ac yn ennill dwy bennod ar Glee: Alex Newell & Lindsay Pearce Enillwyr y gyfres ac yn ennill saith pennod ar Glee: Damian McGinty & Samuel Larsen |
||||
Cynnydd cystadleuwyr [golygu]
| Pennod | 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6 | 7 | 8 | 9 | 10 | |||
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| Damian | RISG | SAFF | RISG | SAFF | SAFF | SAFF | RISG | SAFF | RISG | ENNILL (7) | |||
| Samuel | SAFF | SAFF | SAFF | ENNILL | SAFF | SAFF | ENNILL | RISG | RISG | ENNILL (7) | |||
| Lindsay | SAFF | SAFF | SAFF | SAFF | SAFF | SAFF | SAFF | RISG | G/C | ENNILL (2) | |||
| Alex | SAFF | ENNILL | SAFF | RISG | RISG | RISG | RISG | SAFF | RISG | ENNILL (2) | |||
| Hannah | SAFF | SAFF | SAFF | SAFF | SAFF | SAFF | SAFF | E/M | |||||
| Cameron | SAFF | SAFF | RISG | SAFF | RISG | RISG | FFIDL | ||||||
| Marissa | SAFF | SAFF | SAFF | SAFF | ENNILL | E/M | |||||||
| Matheus | ENNILL | RISG | ENNILL | RISG | ALLAN | ||||||||
| McKynleigh | SAFF | RISG | SAFF | ALLAN | |||||||||
| Emily | SAFF | SAFF | ALLAN | ||||||||||
| Ellis | RISG | ALLAN | |||||||||||
| Bryce | ALLAN | ||||||||||||
- Key
ENNILL Enillodd y cystadleuydd yr aseiniad gwaith cartref ond mewn perygl gadael y sioe.
G/C Enillodd y cystadleuydd yr aseiniad gwaith cartref ond mewn perygl gadael y sioe.
RISG Roedd y cystadleuydd mewn perygl gadael y sioe.
ALLAN Gadawodd y cystadleuydd y sioe.
E/M Enillodd y cystadleuydd yr aseiniad gwaith cartref ond gadawodd y sioe.
FFIDL Roedd y cystadleuydd mewn perygl gadael y sioe ac ymadawodd y sioe o’r herwydd.
ENNILL (7) Enillodd y cystadleuydd saith pennod ar Glee.
ENNILL (2) Enillodd y cystadleuydd dwy bennod ar Glee.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ (Saesneg) Emmy® Award Winners Ryan Murphy and Dante Di Loreto Sign On To Executive Produce Oxygen’s "The Glee Project". Facebook.com.
- ↑ (Saesneg) About The Glee Project.
- ↑ (Saesneg) Cameron Mitchell: A Glee Project Winner After All. D Magazine (22 Awst 2011).
- ↑ (Saesneg) Meet Damian. thegleeproject.oxygen.com (7 Mehefin 2011).
- ↑ (Saesneg) Meet Samuel. thegleeproject.oxygen.com (7 Mehefin 2011).
- ↑ (Saesneg) Meet Lindsay. thegleeproject.oxygen.com (7 Mehefin 2011).
- ↑ (Saesneg) Meet Alex. thegleeproject.oxygen.com (7 Mehefin 2011).
- ↑ (Saesneg) Meet Hannah. thegleeproject.oxygen.com (7 Mehefin 2011).
- ↑ (Saesneg) Meet Cameron. thegleeproject.oxygen.com (7 Mehefin 2011).
- ↑ (Saesneg) Meet Merissa. thegleeproject.oxygen.com (7 Mehefin 2011).
- ↑ (Saesneg) Meet Matheus. thegleeproject.oxygen.com (7 Mehefin 2011).
- ↑ (Saesneg) Meet McKynleigh. thegleeproject.oxygen.com (7 Mehefin 2011).
- ↑ (Saesneg) Meet Emily. thegleeproject.oxygen.com (7 Mehefin 2011).
- ↑ (Saesneg) Meet Ellis. thegleeproject.oxygen.com (7 Mehefin 2011).
- ↑ (Saesneg) Meet Bryce. thegleeproject.oxygen.com (7 Mehefin 2011).
- ↑ 16.0 16.1 More PR CPR Than Usual Necessary For Oxygen's Barely-Watched 'The Glee Project'. tvbythenumbers.zap2it.com (Mehefin 21, 2011).
- ↑ Sunday Cable Ratings: More 'True Blood' & 'Falling Skies,' + 'Kardashians,' 'Law & Order: CI,' 'The Glades' and Much More. tvbythenumbers.zap2it.com (Mehefin 28, 2011).
- ↑ Oxygen's 'The Glee Project' Delivers More than One Million Total Viewers During Original and Encore Airings of Its Fourth Episode - Ratings | TVbytheNumbers. Tvbythenumbers.zap2it.com.
- ↑ Oxygen's 'The Glee Project' Hits Highs In Key Demos and Total Viewers. tvbythenumbers.zap2it.com (Awst 9, 2011).
- ↑ TV Ratings: 'The Glee Project' Hits Series High (Awst 9, 2011).
- ↑ Ratings: The Glee Project Finale Sets a Series High; Everybody Still Wins. tvguide.com (Awst 23, 2011).