The Girl from Ipanema

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cân bossa nova adnabyddus iawn a gafodd lwyddiant rhyngwladol yng nghanol y 1960au oedd "Garota de Ipanema" ("The Girl from Ipanema"). Enillodd Wobr Grammy am Record y Flwyddyn ym 1965. Fe'i hysgrifennwyd ym 1962, y gerddoriaeth gan Antônio Carlos Jobim a'r geiriau Portiwgaleg gan Vinicius de Moraes. Ysgrifennwyd y geiriau Saesneg gan Norman Gimbel yn hwyrach.[1]

Gwnaed y recordiad masnachol cyntaf ym 1962, gan Pery Ribeiro. Daeth y fersiwn a berfformiwyd gan Astrud Gilberto, ynghyd â João Gilberto a Stan Getz, o'r albwm Getz/Gilberto (1964), yn lwyddiant rhyngwladol, gan gyrraedd rhif 5 yn siart yr Unol Daleithiau a rhif 29 yn y Deyrnas Unedig. Mae nifer fawr o recordiadau o'r gân wedi'u defnyddio mewn amryw o ffilmiau, weithiau fel enghraifft ystrydebol o gerddoriaeth lifft, er enghraifft yn agos at ddiwedd y ffilm The Blues Brothers). Yn 2004, cafodd ei dewis gan Llyfrgell y Gyngres i fod yn un o hanner cant o recordiadau o'r flwyddyn honno i'w chynnwys yn y Gofrestrfa Recordio Genedlaethol.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1.  The Girl From Ipanema. OldieLyrics.
  2.  The National Recording Registry 2004. Library of Congress.