The Four Ancient Books of Wales

Oddi ar Wicipedia
The Four Ancient Books of Wales
Clawr cyfrol I o The Four Ancient Books of Wales.
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurWilliam Forbes Skene Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1868 Edit this on Wikidata
Lleoliad cyhoeddiCaeredin Edit this on Wikidata
Prif bwncLlawysgrifau Cymreig Edit this on Wikidata
Yn cynnwysLlyfr Du Caerfyrddin, Llyfr Taliesin, Llyfr Aneirin, Llyfr Coch Hergest Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

The Four Ancient Books of Wales oedd teitl llyfr a gyhoeddwyd gan yr hanesydd a hynafiaethydd Albanaidd William Forbes Skene yn 1868, mewn dwy gyfrol.

Mae'r llyfr yn cynnwys testunau a chyfieithiadau a dynnwyd o bedair llawysgrif Cymraeg Canol, sef:

Cerddi ydy'r testunau o'r llawysgrifau hyn i gyd - ni chyhoeddodd Skene y testunau rhyddiaith yn Llyfr Coch Hergest, sy'n cynnwys chwedlau'r Mabinogion. Cynhwysodd Skene ddeunydd ychwanegol hefyd, sef Englynion y Juvencus a rhai o'r Trioedd.

Cynorthwywyd Skene gan y Cymro Daniel Silvan Evans, ac mae'n debyg mai ei waith ef yw'r rhan fwyaf o'r cyfieithiadau. Cyfieithwyd testun Llyfr Taliesin gan yr hynafiaethydd Robert Williams.

Yn ôl safonau heddiw, mae llawer o wallau yn y testun, ac oherwydd hynny yn y cyfieithiadau. Er hynny, roedd llyfr Skene yn gam pwysig ymlaen yn hanes astudiaethau Cymraeg Canol a llenyddiaeth Gymraeg. Ceisiodd rhoi'r cerddi a'r chwedlau yn eu cyd-destun hanesyddol ac ieithyddol a gwnaeth ymgais i ddosbarthu'r cerddi yn rhai hanesyddol a rhai mytholegol.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]