The Doctor of Myddfai

Oddi ar Wicipedia
The Doctor of Myddfai
Y cyfansoddwr yn 2012
Enghraifft o'r canlynolgwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
CymeriadauSwyddog 1af, Ail swyddog, Y Meddyg, y llywodraethwr, Y plentyn, 3ydd swyddog Edit this on Wikidata
LibretyddDavid Pountney Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1aftheatr Newydd Edit this on Wikidata
CyfansoddwrPeter Maxwell Davies Edit this on Wikidata

Opera gan Syr Peter Maxwell Davies yw The Doctor of Myddfai (1996).[1] Mae'n seiliedig yn fras ar y chwedlau a thraddodiadau sy'n ymwneud â Meddygon Myddfai, teulu o feddygon yn ardal Myddfai yn yr Oesoedd Canol, ond fe'i lleolir mewn cymdeithas dotalitaraidd fel yr un a bortreadir yn y nofel 1984 gan George Orwell.[2]

Ysgrifennwyd y libreto gan David Poutney i ddathlu hanner canmlwyddiant sefydlu Opera Cenedlaethol Cymru.[3]

Cafodd yr opera ei perfformiad cyntaf yn y Theatr Newydd, Caerdydd, ar 5 Mehefin 1996.

Rolau[golygu | golygu cod]

Rôl Llais Cast y Premiere, 5 Mehefin 1996
(Arweinydd: Richard Armstrong)
Y Meddyg high bariton Paul Whelan
Y plentyn, merch tua 12 mlwydd oed soprano Lisa Tyrrell
Y Llywodraethwr Bas Gwynne Howell
Swyddog 1af mezzo-soprano
2il swyddog contralto
3ydd swyddog, Swyddog diogelwch high soprano
10 Gweinidog, yn cynrychioli 10 parth 2 soprano, 3 mezzo-soprano
2 tenors, 3 baswr
2 porthor tenor a bariton
3 merch soprano, mezzo-soprano,
a chontralto
5 grŵp o swyddogion 7 soprano, 6 mezzo-soprano,
5 tenor, 6 bass-baritone
3 Giard rôlau mud
Corws o bobl (SATB)

Crynodeb[golygu | golygu cod]

Amser: Y dyfodol agos
Lle: Tref Myddfai (rhan o unbennaeth Ewrop bellach)

Cefndir y chwedl[golygu | golygu cod]

Syrthiodd bugail mewn cariad â merch brydferth a ymddangosodd yn Llyn y Fan Fach, llyn lle'r oedd yn gofalu am ei braidd. Priododd hi ar ôl pasio'r prawf o'i gwahaniaethu oddi wrth ei dwy chwaer. Fodd bynnag, roedd amod ar eu priodas. Pe bai'n ei tharo deirgwaith yn ystod eu priodas, byddai'n dychwelyd i'r llyn, gan gymryd yr holl gyfoeth roedd hi wedi dod efo hi. Yn y diwedd fe darodd hi am y trydydd tro. Dychwelodd i'r llyn yn unol â'i rhybudd, ond gadawodd ei phwerau iachau iddo ef a'i ddisgynyddion. Daethant yn Feddygon Myddfai.[4]

Yr opera[golygu | golygu cod]

Mae'r Meddyg yn poeni am glefyd newydd rhyfedd sydd wedi torri allan ac yn ailadrodd y chwedl i'w Blentyn. Mae'r afiechyd yn digwydd pryd bynnag y bydd unrhyw un yn derbyn ergyd yn y glaw. Mae'r clais sy'n deillio o hyn yn ymledu dros y corff cyfan. Mae'r rhai sydd â'r afiechyd yn ysu am iachâd gan Y Doctor. Mae ef a thorf o'r sâl (corws yn canu emynau Cristnogol Cymraeg) yn ymgynnull wrth y llyn.

Mae'r Doctor yn ceisio dweud wrth y Llywodraethwr am y clefyd, ond mae'r Llywodraethwr yn ei ddiswyddo ac yn ceisio claddu'r stori. Serch hynny, mae aflonyddwch ar y Llywodraethwr ac mae'n ceisio cysur gyda menyw sy'n troi allan i fod y Meddyg. Yn y gwrthdaro sy'n dilyn yn y glaw, mae'r Meddyg yn taro'r Llywodraethwr, gan ei heintio â'r afiechyd rhyfedd.

Mae'r Cyngor Gwladol yn trafod yr argyfwng a achoswyd gan absenoldeb y Llywodraethwr. Mae'r Llywodraethwr yn ymddangos yn y pen draw ac yn mynnu ei fod yn cael ei gludo i'r llyn i gael ei wella. Yno, mae'r Meddyg yn gwrthod ei wella. Mae torf o'r sâl yn cyrraedd y llyn ac yn eu hanobaith am iachâd yn sathru'r Meddyg i farwolaeth. Mae'r Plentyn yn cyrraedd, ac yn gorchymyn i'r Llywodraethwr i gerdded i mewn i'r llyn. Mae hi'n dod yn Feddyg newydd Myddfai, gan bregethu ymwared trwy adrodd enwau perlysiau a blodau.

Recordiadau[golygu | golygu cod]

  • The Doctor of Myddfai (Paul Whelan, Lisa Tyrrell, Gwynne Howell ac ati.; Cerddorfa a Chorws Opera Cenedlaethol Cymru; Richard Armstrong, arweinydd) Recordiwyd yn fyw, 5 Hydref 1996. Label: Collins Classics 70462 [5]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Doctor of Myddfai". Oxford Reference. doi:10.1093/oi/authority.20110803095724347. Cyrchwyd 2020-10-01.
  2. "Peter Maxwell Davies Doctor of Myddfai - Opera". www.boosey.com. Cyrchwyd 2020-10-01.
  3. "Gwobrau Dewi Sant - David Pountney CBE". Llywodraeth Cymru. Cyrchwyd 2020-10-01.
  4. "Review - The Doctor of Myddfai". Gramophone. Cyrchwyd 2020-10-01.[dolen marw]
  5. "Davies: The Doctor of Myddfai - Opera News | HighBeam Research". web.archive.org. 2012-10-22. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-22. Cyrchwyd 2020-10-01.