The Constant Gardener (ffilm)
Oddi ar Wicipedia
![]() Poster y Ffilm |
|
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Fernando Meirelles |
| Cynhyrchydd | Simon Channing-Williams |
| Ysgrifennwr | Y nofel: John le Carré Sgript: Jeffrey Caine |
| Serennu | Ralph Fiennes Rachel Weisz Hubert Koundé Danny Huston Bill Nighy John Sibi-Okumu Packson Ngugi Archie Panjabi |
| Cwmni Cynhyrchu | Focus Features |
| Dyddiad rhyddhau | 31 Awst, 2005 |
| Amser rhedeg | 129 munud |
| Gwlad | Deyrnas Unedig Yr Almaen |
| Iaith | Saesneg Swahili Almaeneg Eidaleg |
Mae The Constant Gardener (2005) yn ffilm ddrama a gyfarwyddwyd gan Fernando Meirelles. Mae sgript Jeffrey Caine yn seiliedig ar nofel John le Carré o'r un enw. Adrodda'r ffilm hanes Justin Quayle, dyn sydd am ddarganfod y rhesymau dros farwolaeth ei wraig.
Mae'r ffilm yn serennu Ralph Fiennes, Rachel Weisz, Hubert Koundé, Danny Huston, a Bill Nighy. Ffilmiwyd y ffilm yn Loiyangalani ac yn slymiau Kibera, sy'n rhan o Nairobi, Kenya. Cafodd y profiad y fath effaith ar y cast a'r criw nes iddynt sefydlu'r Ymddiriedolaeth y Constant Gardener er mwyn darparu addysg sylfaenol yn y pentrefi hyn.
Rhyddhawyd fersiynau DVD yn yr Unol Daleithiau ar y 1af o Ionawr, 2006 ac yn y DU ar y 13eg o Fawrth, 2006.
