The Catcher in the Rye
Mae The Catcher in the Rye (1951) yn nofel gan J. D. Salinger. Yn wreiddiol, cafodd ei chyhoeddi ar gyfer oedolion [1] ond bellach mae'n rhan gyffredin o feysydd llafur ysgolion uwchradd a cholegau. Mae'r nofel wedi ei chyfieithu i'r mwyafrif o brif ieithoedd y byd [2]. Gwerthir oddeutu 250,000 o gopïau yn flynyddol, gyda'r cyfanswm o'r nifer o gopïau sydd wedi'u gwerthu hyd yn hyn dros chwechdeg pum miliwn. Mae gwrth-arwr y nofel, Holden Caulfield, wedi datblygu i fod yn eicon ar gyfer arddegwyr gwrthryfelgar.
Dewisodd cylchgrawn Time y nofel fel un o'r nofelau Saesneg gorau a ysgrifennwyd rhwng 1923 a 2005 [3] a chan y Llyfrgell Fodern a'i darllenwyr fel un o'r cant o nofelau gorau o'r 20fed ganrif. Mae nifer yn yr Unol Daleithiau wedi ceisio herio a chwestiynu cynnwys y nofel yn sgîl ei hiaith gref a'r modd y mae'n darlunio rhywioldeb a phryderon dwys pobl ifanc yn eu glasoed.
Roedd llofruddiaeth John Lennon gan Mark David Chapman ac ymgais John Hinckley, Jr. i ddienyddio Ronald Reagan, ynghyd â llofruddiaethau eraill wedi cael eu cysylltu â'r nofel [4][5]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Erthygl Michael Cart (2000-11-15). "Famous Firsts. (llenyddiaeth ar gyfer oedolion ifanc)", Booklist. Rhestrwyd 28 Ionawr 2009
- ↑ [Magill, Frank N. (1991). "J. D. Salinger". Magill's Survey of American Literature. New York: Marshall Cavendish Corporation. pp. 1803. ISBN 1-85435-437-X. ]
- ↑ Erthygl o wefan cylchgrawn Time
- ↑ Erthygl Amarillo.com
- ↑ Gwefan Salon.com
Dolenni Allanol [golygu]
- The Catcher in the Rye a Materion Cysylltiedig
- Rhestr o Gymeriadau a Gwybodaeth am Sensoriaeth o Catcher in the Rye
- Lluniau o'r argraffiad cyntaf o Catcher in the Rye
- Dadansoddiad o Catcher in the Rye wrth Spark Notes
- Crynodeb o'r nofel Catcher in the Rye
- The Catcher in the Rye - multimedia
