Thasuka Witco

Oddi ar Wicipedia
Thasuka Witco
Ganwydc. 1840, 4 Rhagfyr 1849 Edit this on Wikidata
De Dakota Edit this on Wikidata
Bu farw5 Medi 1877 Edit this on Wikidata
Fort Robinson Edit this on Wikidata
Man preswylDe Dakota Edit this on Wikidata
DinasyddiaethOglala Lakota Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, penadur Edit this on Wikidata
Swyddpenadur, cadfridog rhyfel Edit this on Wikidata

Pennaeth pobl frodorol y Lakota (rhan o'r Sioux) oedd Thasuka Witco, (Lakota: Thašųka Witko), Saesneg: Crazy Horse (1840 - 5 Medi 1877). Bu'n ymladd llawer yn erbyn llywodraeth yr Unol Daleithiau er mwyn amddiffyn tiriogaeth y Sioux.

Ymladdodd nifer o frwydrau yn erbyn byddin yr Unol Daleithiau, yn arbennig yn ystod Rhyfel Mawr y Sioux 1876-77. Roedd yn un o'r prif arweinyddion ym Mrwydr Little Big Horn, pan orchfygwyd y Cadfridog George A. Custer a'i ŵyr o'r Seithfed Farchoglu ar ôl iddyn nhw, gydag unedau eraill, ymosod yn ddirybudd ar bentref mawr y Sioux a'u cynghreiriaid.

Ar 5 Mai 1877, gyda'i bobl wedi eu gwanhau gan newyn ag oerni, bu raid iddo ildio i'r fyddin yn Camp Robinson, Nebraska. Bu'n byw yn y "Red Cloud Agency" am rai misoedd, ond ar 5 Medi ceisiodd y fyddin ei gymryd i'r ddalfa. Wrth iddo geisio gwrthwynebu hyn, trywanwyd ef, a bu farw'r noson honno.

Ar hyn o bryd mae gwaith yn parhau ar Gofeb Crazy Horse yn y Black Hills, De Dakota, gwaith a ddechreuwyd gan Korczak Ziółkowski ym 1948. Pan orffennir y cerflun, bydd yn 641 troedfedd (195 m.) o led a 563 troedfedd (172 m.) o uchder - y gerfddelw fwyaf yn y byd.

Cymeriad Thasuka Witco[golygu | golygu cod]

Roedd Thasuka yn gymeriad hynod a arweiniodd ei bobl er nad oedd yn bennaeth ei hun. Ceir disgrifiad da ohono gan ei gefnder Black Elk yn ei lyfr Black Elk Speaks. Cafodd ei enw ar ôl cael gweledigaeth ysbrydol yn llanc ifanc. Yn y weledigaeth, aeth i wlad yr ysbrydion mewn llewyg Siamanaidd. Roedd ei geffyl gyda fo yno. Fel popeth arall yn y wlad honno, ysbryd oedd ei geffyl. Arnofiai pob dim yno a doedd dim byd yn galed. Safai ei geffyl yn llonydd wrth ymyl Thasuka ond ar yr un pryd, yn gwbl baradocsaidd, dawnsiai o gwmpas yn wyllt. A dyna sut y cafodd Thasuka ei enw, sy'n cyfeirio at ei geffyl yn hytrach nag at y dyn ei hun.[1]

Cafodd nerth o'r weledigaeth honno. Credai yn ddiffuant pe bai'n cadw'r weledigaeth yn ei feddwl ni fyddai'n cael ei ladd mewn brwydr, a chredai ei bobl hynny hefyd. Arferai Thasuka grwydro ymhlith y tipis heb gymryd sylw o neb, hyd yn oed y penaethiaid, ond roedd ganddo amser i'r plant bach bob tro. Yn wahanol i'r Lakotas eraill, ni fyddai byth yn canu nac yn dawnsio. Ond roedd pawb yn ei hoffi ac yn ei edmygu. Byddai'n diystyru cyfoeth personol, heb lawer o ferlod iddo'i hun fel y gwŷr mawr eraill. Gŵr bychan ydoedd hefyd, tenau braidd a chyda llygaid oedd yn gweld trwy bopeth. Nid oedd yn bwyta llawer ar y gorau ac yn y dyddiau duon ar ôl Brwydr Little Big Horn yn y Bryniau Duon gwrthodai fwyta er mwyn i'r plant a'r henoed gael digon.

"Dyn rhyfeddol oedd o," meddai Black Elk. "Efallai'r arhosai o hyd yn rhannol ym myd ei weledigaeth. Roedd yn ddyn gwirioneddol fawr, ac yn fy marn i, pe bai'r wasichu (dynion gwyn) heb ei ladd i lawr fan'na, efallai'n wir y byddem ni'n byw yn y Bryniau Duon o hyd ac yn hapus. Roedd yn amhosibl iddyn nhw ei ladd o mewn brwydr agored. Bu rhaid iddyn nhw ddweud celwyddau wrth ei ladd. A dim ond tua thri deg oed oedd o pan gafodd ei ladd."[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Black Elk Speaks, tud. 85.
  2. ibid., tud. 86-7.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Ambrose, Stephen E. (1996 [1975]). Crazy Horse and Custer: The Parallel Lives of Two American Warriors (Efrog Newydd: Anchor Books)