Teyrnas Laos

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner Teyrnas Laos

Gwladwriaeth sofran yn Ne Ddwyrain Asia oedd Teyrnas Laos. Daeth yn annibynnol ar Indo-Tsieina Ffrengig ym 1953 ac ym 1962 cytunodd llywodraeth Laos a 13 o wledydd eraill i atal y wlad rhag ymochri ag unrhyw gynghrair yn ôl y Cytundeb Rhyngwladol ar Niwtraliaeth Laos. Er hyn, datblygodd rhyel cartref rhwng y niwtralwyr dan y Tywysog Souvanna Phouma, yr adain dde dan y Tywysog Boun Oum, a chomiwnyddion y Pathet Lao dan y Tywysog Souphanouvong. Ym 1975 enillodd y Pathet Lao y rhyel cartref a sefydlwyd Gweriniaeth Ddemocrataidd y Bobl Lao.

Flag of Laos.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Laos. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato