Tethys (lloeren)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tethys

Tethys yw'r nawfed o loerennau a wyddys:

Cylchdro: 294,660 km oddi wrth Sadwrn

Tryfesur: 1060 km

Cynhwysedd: 6.22e20 kg

Ym mytholeg Roeg roedd Tethys yn ditanes, yn dduwies y môr ac yn chwaer a gwraig i Oceanos.

Cafodd y lloeren ei darganfod gan Cassini ym 1684.

Mae dwysedd isel Tethys yn dangos ei bod wedi ei chyfansoddi bron yn gyfan gwbl gan dŵr, yn debyg i Ddione a Rhea.

Mae hemisffer y gorllewin yn cael ei oruchafu gan grater enfawr o'r enw Odysews gyda thryfesur o 400 km, sydd bron yn 2/5 o dryfesur Tethys ei hun. Mae'r ffaith na wnaeth y trawiad a achosodd y crater ddinistrio Tethys yn llwyr yn awgrymu iddi fod yn hylifol ar y pryd neu o leiaf nid yn solet iawn. Mae'r crater bellach yn fflat (neu, mewn geiriau eraill, mae'n cydffurfio i siap sfferigol Tethys), heb mynyddoedd uchel yn ei gylchio na fannau canolog fel ar y Lleuad ac ar Fercher.

Yr ail nodwedd a welir ar Dethys ydy'r Ithaca Chasma, dyffryn a chandddo ddyfnder o 3–5 km, lled o 100 km, a hyd o 2000 km (neu 3/4 o gylchyn y lloeren).

Mae'n amlwg felly nad oedd Tethys yn solet yn y gorffennol. Mae'r craterau wedi cael eu llyfnu wrth i Dethys rewi ac ehangu ac mae'r arwyneb wedi cracio i ffurfio'r Ithaca Chasma.