Crwban
| Crwban Amrediad amseryddol: Triasig Diweddar – Diweddar, 215–0 Ma |
|
|---|---|
| Crwban cloriog Fflorida (Terrapene carolina bauri) |
|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Testudines Linnaeus, 1758 [1] |
| Is-urddau a theuluoedd | |
| Amrywiaeth | |
| 14 teulu gyda thua 300 rhywogaeth | |
| Glas: crwbanod y môr. Du: crwbanod y tir. | |
Ymlusgiad yw'r crwban (lluosog: crwbanod) sy'n perthyn i'r grŵp a elwir yn Testudines. Ceir cragen gref sydd wedi'i chysylltu i ran uchaf (cefn) ei gorff ac sydd wedi datblygu dros miliynnau o flynyddoedd allan o esgyrn rhan o'i asennau. Pwrpas y gragen yw amddiffyn ei gorff meddal. Mae rhai rhywogaethau'n byw ar dir, megis y teulu crwbanod tir (tortoises), ac mae rhai'n byw mewn dŵr croyw, megis y terapiniaid. Mae môr-grwbanod yn byw mewn dŵr hallt. Anifail gwaed oer yw'r rhan fwyaf ohonynt.
Ceir ffosiliau sy'n mynd yn ôl cymaint a 250 miliwn o flynyddoedd,[2] sy'n gwneud y crwban yn un o'r ymlusgiaid hynaf ar y Ddaear yn hŷn na chrocodeil, nadroedd a madfallod. Mae rhai ohonynt yn brin iawn.
Fel gweddill y grŵp amniote (adar, deinosoriaid, ymlusgiaid a mamaliaid), mae nhw'n anadlu ocsigen o'r aer ac nid ydynt yn dodwy eu wyau mewn dŵr - er bod llawer iawn ohonynt yn byw ger y dŵr neu mewn dŵr. Mae'r crwbanod mwyaf i gyd yn byw mewn dŵr.
Anatomi [golygu]
Y crwban mwyaf yw'r môr-grwban lledraidd. Gall dyfu hyd at 200 cm, a gall bwyso hyd at 900 kg. Er hynny, mae'r crwban padloper brych ddim ond yn tyfu hyd at 8 cm o hyd, ac mae'n pwyso tua 140 gm.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ "Testudines", Integrated Taxonomic Information System.
- ↑ "Archelon-Enchanted Learning Software". Enchantedlearning.com. http://www.enchantedlearning.com/subjects/dinosaurs/dinos/Archelon.shtml. Adalwyd 2009-03-14.