Terrence Higgins Trust

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Hysbyseb; rhan o ymgyrch HIV/AIDS "Assume Nothing"

Mae'r Terrence Higgins Trust yn elusen yn y Deyrnas Unedig sy'n ymgyrchu ar faterion sy'n ymwneud â HIV ac AIDS. Nod yr elusen yn benodol yw lleihau trosglwyddiad HIV ac annog iechyd rhywiol da (gan gynnwys rhyw diogel); i ddarparu gwasanaethau ar lefel lleol a chenedlaethol i bobl sydd â, mewn perygl o gael eu heintio neu wedi cael eu heffeithio gan HIV; ac i ymgyrchu dros gwell dealltwriaeth o oblygiadau HIV ac AIDS.

Terrence Higgins Trust oedd yr elusen gyntaf yn y DU i gael ei sefydlu mewn ymateb i HIV, a chafodd ei sefydlu ym 1982.[1]. Yn wreiddiol, galwyd yr elusen yn Terry Higgins Trust.[2] Bu farw Terry Higgins yn 37 oed ar y 4ydd o Orffennaf, 1982 yn Ysbyty San Thomas, Llundain. Roedd ef ymhlith y bobl cyntaf i farw o AIDS. Sefydlodd ei gyfaill hir-dymor, Tony Calvert, a gwirfoddolwyr eraill yr elusen fel ffordd i atal dioddefaint o ganlyniad i AIDS. Enwyd yr elusen ar ôl Terry er mwyn creu elfen bersonol ac i bwysleisio'r elfen ddynol o AIDS. Ffurfiolwyd yr elusen ym mis Awst 1983 pan gawsant gyfansoddiad a chyfrif banc, a newidiwyd yr enw (Terrence yn hytrach na' Terry) er mwyn swnio'n fwy ffurfiol. Daeth yn gwmni cyfyngedig ym mis Tachwedd 1983 a derbyniodd statws elusen ym mis Ionawr 1984.

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "FROM FEAR TO HOPE - The Story of the Terrence Higgins Trust", Martin Hoskins. Adalwyd ar 2009-05-04
  2. Rupert Whitaker: 'I've lost 35 friends to HIV' Julia Stuart. The Independent. Adalwyd ar 2009-05-05