Terfysgaeth wladwriaethol

Oddi ar Wicipedia
Efallai eich bod yn chwilio am terfysgaeth a noddir gan wladwriaethau.

Terfysgaeth gan lywodraethau yw terfysgaeth wladwriaethol. Mae'n cymryd ffurf cefnogaeth lywodraethol swyddogol dros drais, gormes, a brawychiad yn erbyn bygythiadau canfyddedig i ddiddordebau a diogelwch y wladwriaeth.[1]

Mae diffiniadau terfysgaeth bron wastad yn canolbwyntio ar y weithred yn hytrach na natur y gweithredydd, ond er hyn dadleuol yw'r syniad y gall gwladwriaethau bod yn euog o derfysgaeth.[2] Yn gyffredinol mae gwladwriaethau yn gwrthod bod terfysgaeth wladwriaethol yn bodoli, gan fod diffiniadau lywodraethol o derfysgaeth yn seiliedig ar y syniad Weberaidd o fonopoli'r wladwriaeth ar ddefnydd cyfreithlon grym. O ganlyniad maent yn ystyried unrhyw drais gan y wladwriaeth yn gyfreithlon, ac unrhyw drais gan weithredydd anwladwriaethol yn de facto yn ymddwyn y tu allan i ffiniau derbyniol gweithgarwch gwleidyddol ac felly'n derfysgaeth.[3] Ni sonir am "derfysgaeth wladwriaethol" o gwbl yng nghyfraith ryngwladol, ond mae diffiniadau academaidd ohoni yn aml yn gorgyffwrdd â'r syniad o droseddau rhyfel, sydd â diffiniad cyfreithiol.[4]

Mae nifer o unigolion, sefydliadau, a mudiadau yn dadlau bod fath beth â therfysgaeth wladwriaethol, a bod ei helfennau yr un ag elfennau terfysgaeth anwladwriaethol.[5] Yn ôl yr academydd Ruth Blakeley, mae terfysgaeth wladwriaethol yn cymryd y ffurfiau canlynol:[4]

  1. trais bwriadol gan lywodraeth yn erbyn unigolion y mae gan y wladwriaeth ddyletswydd i'w hamddiffyn;
  2. mae gweithredyddion y trais yn gweithredu ar ran neu ynghŷd â'r wladwriaeth (e.e. grwpiau parafilwrol, asiantau diogelwch preifat);
  3. brawychu'r rhai sy'n uniaethu â tharged y trais; a
  4. gorfodi'r targed i newid eu hymddygiad.

Mae dulliau terfysgaeth wladwriaethol yn cynnwys diflaniad gorfodol, carchariad anghyfreithlon, artaith, bradlofruddiaeth, herwgipio, torri cyfraith ryngwladol (yn enwedig Cytundebau Genefa), a thargedu sifiliaid yn ystod gwrthdaro arfog. Mae Ymgyrch Condor, ymgyrch aml-lywodraethol a welodd cydweithio rhwng unbenaethau milwrol Côn Deheuol De America, yn enghraifft nodweddiadol o ddefnydd y tactegau yma.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Martin (2006), t. 111.
  2. Blakeley (2010), tt. 12–3.
  3. Townshend (2002), tt. 3–5.
  4. 4.0 4.1 Blakeley (2010), t. 15.
  5. Blakeley (2010), t. 12.
  6. Blakeley (2010), t. 19.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • Blakeley, R. (2010) 'State terrorism in the social sciences: Theories, methods and concepts'. Yn Contemporary State Terrorism: Theory and Practice, golygwyd gan Richard Jackson, Eamon Murphy, a Scott Poynting. London: Routledge.
  • Martin, G. (2006) Understanding Terrorism: Challenges, Perspectives, and Issues. Thousand Oaks, CA: SAGE.
  • Townshend, C. (2002) Terrorism: A Very Short Introduction. Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen.