Terence O'Neill

Oddi ar Wicipedia
Terence O'Neill
Ganwyd10 Medi 1914 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mehefin 1990 Edit this on Wikidata
Hampshire Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Eton
  • West Downs School
  • Coleg Milwrol Brenhinol, Sandhurst Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, gwas sifil, person milwrol Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog Gogledd Iwerddon, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, Aelod Seneddol Gogledd Iwerddon, Dirprwy Aelod Cynulliad Seneddol Cyngor Ewrop Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Unoliaethol Ulster Edit this on Wikidata
TadArthur O'Neill Edit this on Wikidata
MamAnnabel Crewe-Milnes Edit this on Wikidata
PriodJean O'Neill, Lady O'Neill of the Maine Edit this on Wikidata
PlantPatrick Arthur Ingham O'Neill, Penelope Ann O'Neill Edit this on Wikidata
PerthnasauBamber Gascoigne Edit this on Wikidata

Terence Marne O'Neill (10 Medi 191412 Mehefin 1990) oedd pedwerydd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon.

Ganed Terence O’Neill yn Llundain, yn fab i'r Capten Arthur O'Neill, yr Aelod Seneddol cyntaf i'w ladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Aeth ef a'i deulu i fyw i Ogledd Iwerddon yn 1945, ac yn 1946 etholwyd ef i Senedd Gogledd Iwerddon dros Blaid Unoliaethol Ulster (UUP).

Yn 1963, olynodd Syr Basil Brooke fel Prif Weinidog Gogledd Iwerddon. Ceisiodd wella'r berthynas rhwng Protestaniaid a Chatholigion, ond bu gwrthwynebiad i hyn gan rai Protestaniaid. Gwahoddodd y Taoiseach (Prif Weinidog Gweriniaeth Iwerddon), Seán Lemass, i Belffast i gynnal trafodaethau; gwrthwynebwyd hyn yn chwyrn gan rai Unoliaethwyr, yn arbennig Ian Paisley.

Yn 1968, dechreuodd yr ymgyrch hawliau sifil yng Ngogledd Iwerddon. Ceisiodd O'Neill wneud newudiadau i gyfarfod a rhai o'u gofynion, ond roedd ei fesurau yn rhy ychydig i'r Catholigion, ond yn ormod i lawer o Brotestaniaid, gan gynnwys llawer yn ei blaid ei hun. Galwodd ethliad yn Chwefror 1969, ac wedi methu cael buddugoliaeth glir, ymddiswyddodd fel arweinydd yr UUP a Phrif Weinidog ym mis Ebrill.