Teotihuacán
Oddi ar Wicipedia
Dinas frodorol ym Mexico oedd Teotihuacan (o'r Nahuatl Teōtihuácān, "lle i wneud duwiau"). Hi oedd dinas fwaf poblog canolbarth America yn y cyfnod cyn y goncwest Sbaenaidd. Ar ei huchafbwynt, roedd y boblogaeth rhwng 150,000 a 200,000.
Saif Teotihuacán 40 km i'r gogledd-ddwyrain o Ddinas México, gerllaw trefi San Juan Teotihuacan a San Martín de las Pirámides, yn nhalaith México. Blodeuodd y ddinas yn y canrifoedd hyd at tua 600 OC; erbyn yr 8fed ganrif roedd y trigolion wedi ymadael. Nid oes sicrwydd o ba grŵp ethnig yr oedd y preswylwyr.
Dynodwyd y safle yn Safle Treftadaeth y Byd gan Unesco yn 1987. Caiff fwy o ymweliadau gan dwristiaid nag unrhyw safle archaeolegol arall ym Mexico.