Teml Jupiter Ammon

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Teml Jupiter-Ammon)
Alecsander yn cael ei enw'n fab Jupiter Ammon yn Siwa (darlun o lyfr, 1696)

Teml Jupiter Ammon oedd sedd un o oraclau pwysicaf yr Henfyd. Roedd yn gysegredig i'r duw Jupiter Ammon ac yn sefyll mewn gwerddon ar safle ger tref werddon Siwa heddiw, yn yr Aifft.

Ffurf hybrid ar y duw brodorol Ammon (neu 'Hammon') oedd Jupiter Ammon (roedd yn arfer gan y Rhufeiniaid gysylltu duwiau brodorol â'r duwiau clasurol). Dywedir i'r deml gael ei godi naill ai gan Bacchus neu Heracles i nodi'r llecyn lle datguddiodd Ammon ffynnon. Portreadir y duw gyda chyrn maharen ar ei ben.

Roedd y deml tua naw diwrnod i'r gorllewin o ddinas Alecsandria. Yn ôl traddodiad cafodd ei sefydlu deunaw canrif cyn oes yr ymerodr Augustus, tua 1700 CC felly. Gwir neu beidio, roedd y deml yn hen. Dywedir fod cant o offeiriaid yn ei gwasanaeth. Yng nghysegrfan mewnol y deml safai cerflun efydd o'r duw addurnedig â nifer o feini gwerthfawr ac yn sefyll ar bedestal aur.

Tyrrai pobl o bob rhan o'r Môr Canoldir a'r tu hwnt i ymgynghori â'r oracl enwog. Roedd yr oracl hynny'n gysylltiedig ag oracl Dodona yng Ngwlad Groeg yn ôl Herodotus ac eraill, gan fod dwy golomen wedi hedfan o Thebes (yn Yr Aifft) i'w sefydlu. Y dyn enwocaf i ymweld â'r oracl oedd Alecsander Fawr. Dywedodd yr oracl ei fod yn fab i Jupiter ei hun. Afraid dweud nad oedd pawb yn barod i gredu hynny a suddodd enw'r oracl ac erbyn oes Plutarch roedd wedi colli llawer o'i ddylanwad.

Erbyn heddiw nid oes llawer o'r deml yn sefyll. Lleolir Siwa yn Anialwch Gorllewinol yr Aifft, ger y ffin â Libia. Mae'n lle anghysbell iawn.

Ffynonellau[golygu | golygu cod]

  • C. Dalrymple Belgrave, Siwa, the Oasis of Jupiter Ammon (The Bodley Head, Llundain)
  • J. Lempriere, A Classical Dictionary (Llundain, d.d.)
  • Robin Maugham, Journey to Siwa (Chapman and Hall, Llundain, 1950). Hanes taith i werddon Siwa gyda disgrifiad da o'r deml a'i hanes.