Telor Cetti
Oddi ar Wicipedia
| Telor Cetti | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Cettiidae |
| Genws: | Cettia |
| Rhywogaeth: | C. cetti |
| Enw deuenwol | |
| Cettia cetti (Temminck, 1820) |
|
Aderyn sy'n aelod o deulu'r Cettiidae yw Telor Cetti (Cettia cetti). Mae'n nythu yn Ewrop, gogledd-orllewin Affrica a rhannau o dde Asia cyn belled ag Afghanistan. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, er bod yr adar yn y dwyrain yn symud tua'r de yn y gaeaf.
Ceir Telor Cetti o amgylch gwlyptiroedd lle ceir llawer o dyfiant. Mae tua 13 - 14 cm o hyd, ac yn aderyn browngoch gyda llinell wen uwchben y llygad. Mae'r ddau ryw yr un fath. Ei brif fwyd yw pryfed.
Enwyd yr aderyn ar ôl y naturiaethwr Eidaleg Francesco Cetti. Dim ond yn gymharol ddiweddar y dechreuodd Telor Cetti nythu yng Nghymru.