Telesgop gofod Hubble
| Lansiwyd | 24 Ebrill 1990 |
|---|---|
| Perchennog | NASA |
| Pellter o'r ddaear | 600km |
| Gwefan Swyddogol | http://hubble.nasa.gov/ |
Mae'r Telesgop Gofod Hubble yn telesgop enwog sy'n troi o gwmpas y ddaear. Dyma yw'r telesgop optegol cyntaf i droi o gwmpas y Ddaear mewn orbit. Mae'r telesgop yn medru arsyllu 24 awr y dydd ac yn gallu cynhyrchu delweddau o'r awyr sy'n llawer cliriach na unrhyw delesgop daearol gan fod lleoliad y telesgop uwchben yr atmosffer. Enwyd y telesgop ar ôl seryddwr Edwin Hubble.
Mae'r telesgop yn arsyllu llai na 20% o'r amser. Adeiladwyd y telesgop gan NASA ac yr ESA. Lleolir y telesgop 600 km uwchben y ddaear a lansiwyd ar y 24ain o Ebrill 1990. Mae'r telesgop yn cwblhau orbit cyfan o'r Ddaear mewn 97 munud sy'n golygu ei fod yn teithio 5 milltir mewn eilliad.
Mae'r Hubble ei hun tua'r un maint a bws ysgol fawr, ond yn ddigon bach i ffitio mewn ardal cargo Space Shuttle. Cafodd y hubble ei atgyweirio yn 1993 oherwydd amherffeithrwydd y delweddau a gynhyrchir. Roedd yna broblem efo cromlin un o’r drychau- danfonwyd space shuttle arall i fyny i atgyweirio'r broblem.