Teledu clyfar

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Teledu clyfar LG Electronics a laniswyd yn Rhagfyr 2011.

Mae'r teledu clyfar (Saesneg: smart tv neu connected tv) yn caniatau i ddau fath gwahanol o dechnoleg uno gyda'i gilydd mewn un set neu focs, fel mae'r ffôn clyfar yn ei wneud. Mae'n caniatau i'r defnyddiwr weld (a chlywed) ffilmiau, rhaglenni, drwy'r we ond hefyd mae'n cynnig y sianeli teledu arferol e.e. Sky, BBC (drwy iPlayer) a Freeview. Gall y defnyddiwr hefyd drin a thafod ffeiliau personnol megis lluniau a fideo mae wedi'u creu eu hun dwr gysylltu'r teledu clyfar â'i gyfrifiaur neu gyda dyfais storio gwybodaeth megis y co-bach. Yr "arwyneb" a ddefnyddir i uno'r ddau dechnoleg ac i wneud y fforio'n hawdd yw'r hyn a elwir yn EPG.

Erbyn 2012 roedd y dechnoleg hwn ar gael nid yn unig ar gyfer teledai Haen 1 (sef y teledai drud gan gwmniau mawrion fel LG Electronics a ddyfeisiodd y teledu clyfar cyntaf yn 2007 a Samsung (Samsung Smart TV) ond hefyd ar deledai Haen 2 gan gwmniau megis InView Technology. Yn Mawrth 2012, dechreuodd Argos werthu teledai a bocsys set-up rhad gan InView am y tro cyntaf.[1]

Gweler Hefyd[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

Icon-gears.png Eginyn erthygl sydd uchod am dechnoleg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato