Teisen Battenberg

Oddi ar Wicipedia
Teisen Battenberg

Teisen sbwnj ysgafn yw teisen Battenberg sy'n boblogaidd ym Mhrydain. Mae ganddi haen o farsipán ac mae ei chroestoriad yn dangos patrwm sgwarog yn debyg i fwrdd gwyddbwyll o ddau sgwâr pinc a dau sgwâr melyn. Defnyddir jam i gysylltu rhannau'r deisen.

Mae ryseitiau Seisnig am "deisen ffenestr eglwys" yn dyddio yn ôl i ddechrau'r 19g.[1] Yn draddodiadol dywedir i'r deisen fodern gael ei chreu gan gogyddion y teulu brenhinol Prydeinig i ddathlu priodas y Dywysoges Viktoria o Hessen-Darmstadt a'r Tywysog Louis o Battenberg ym 1884.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Duff, Julie. Cakes: Regional and Traditional (Llundain, Grub Street, 2009), t. 226.
  2. Nevin, Charles (13 Tachwedd 2010). "Battenberg cake". The Independent. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2013.

Dolen allanol[golygu | golygu cod]