Tehran (talaith)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Talaith Tehran

Un o daleithiau cyfoes Iran yw talaith Tehran (Perseg: استان تهران ; Ostān-e Tehrān). Mae'n gorwedd yng ngogledd canolbarth y wlad gyda phrifddinas Iran, dinas Tehran, yn brifddinas iddi. Mae'n cynnwys 18,909 cilometr sgwâr o dir ac yn gorwedd ar lwyfandir canol Iran.

Mae talaith Tehran yn ffinio â thalaith Māzandarān i'r gogledd, talaith Qom i'r de, Semnān i'r dwyrain, a Qazvīn i'r gorllewin. Mae'r dalaith yn cynnwys 13 treflan, 43 ardal ddinesig, ac 1358 pentref (Mehefin, 2005).

Daeth y dalaith i amlygrwydd pan gyhoeddwyd dinas Tehran yn brifddinas y wlad gan y frenhinllin Qajar yn 1778.

Dolenni allanol[golygu]


Taleithiau Iran Baner Iran
Alborz | Ardabil | Bushehr | Chaharmahal a Bakhtiari | Dwyrain Azarbaijan | Fārs | Gīlān | Golestān | Gogledd Khorasan | Gorllewin Azarbaijan | Hormozgān | Hamadān | Īlām | Isfahan | Kermanshah | Khūzestān | Kordestan | | Kohgiluyeh a Boyer-Ahmad | Kermān | Lorestān | Markazi | Māzandarān | Razavi Khorasan | De Khorasan | Sistan a Baluchestan | Tehran | Qazvin | Qom | Semnān | Yazd | Zanjan
Flag of Iran.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Iran. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.