Tegla ach Reguli

Oddi ar Wicipedia
Tegla ach Reguli
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
Man preswylLlandegla Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata

Santes o'r 5g oedd Tegla. Roedd hi yn ferch i Reguli o Wynedd.

Sefydlodd Llandegla (Llandegley) ym Mhowys a Llandegla ger Rhuthun a cysylltir hi weithiau gyda Capel Tegla ger Casgwent. Bu Tegla yn adnabyddus dros ardal eang am ei gallu i iachau. Bu lefel uchel o sylffwr yn ei ffynnon ym Mhowys oedd yn cynorthwyo gyda ambell afiechyd, efallai. Dwedir ei bod hi wedi gwella Cynan o Wynedd o gur pen parhaus ar ôl iddo addo rhyddhau carcharorion.[1]:

Defod yn Llandegla[golygu | golygu cod]

Credwyd fod modd gwella epilepsi, a elwyd ers talwm yn 'clwyf Tecla' trwy ddefod a gyflawnwyd yn Llandegla ger Rhuthun. Cofnododd Edward Llwyd y defod yn 1699. Bu rhaid i'r cleifion mynd â iâr gyda hwy. Golchwyd traed a dwylo y claf yn nŵr y ffynnon a pigwyd yr iâr gyda pin a taflwyd i'r ffynnon. Ar ôl talu ceidwad y ffynnon, ac adrodd Gweddi'r Arglwydd tairgwaith, cerddodd y claf o gwmpas yr eglwys tairgwaith. Bu rhaid i'r claf gysgu wedyn, gyda'r iâr, o dan allor eglwys Llandegla, ar nos Wener, gan ddefnyddio'r Beibl fel gobennydd. Yn y bore chwythodd y claf i lawr corn gwddf yr iâr i drosglwyddo yr haint i'r iâr. Gadewyd yr iâr yn yr eglwys. Buasai'r triniaeth yn llwyddiannus petasai'r iâr yn marw (ond nid cael ei lladd) yn yr eglwys. Bu yr eglwys yn llawnach o ieir nag o bobl yn aml. Parhaodd yr arferion hyn tan y 19g. Yn 1935 darganfuwyd llawer o pinnau a darnau pres yn y ffynnon.[1]

Mae ddwy santes arall Thecla o'r 1g a Tegla o'r 8g a ni dylid cymysgu y tair.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dylid darllen yr erthygl hwn ynghyd-destun Santesau Celtaidd 388-680.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Breverton, T.D. 2000, The Book of Welsh Saints, Glyndwr publishing