Ted Breeze Jones

Oddi ar Wicipedia
Ted Breeze Jones
Ganwyd8 Mawrth 1929 Edit this on Wikidata
Manod Edit this on Wikidata
Bu farw3 Gorffennaf 1997 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Athrolys Edit this on Wikidata
Galwedigaethathro, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Clawr Ted: Dyn yr Adar (Gwasg Gomer, 2000)

Athro, naturiaethwr ac awdur oedd Ted Breeze Jones (8 Mawrth 19293 Gorffennaf 1997).[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Ted yn ardal Cae Clyd, Manod o Flaenau Ffestiniog. Bu farw ei fam pan oedd yn 10 oed a bu farw ei dad yn fuan wedyn. Symudodd rhyw filltir i fyny'r ffordd i Flaenau Ffestiniog, lle cafodd ei fagu gan ei fodryb a'i ewythr.[2]

Addysg[golygu | golygu cod]

Mynychodd yn blentyn Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiog. Yn 1946 aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg y Normal, Bangor. Bu yno hyd 1948, pryd yr ymunodd â’r Llu Awyr i gwblhau ei ddwy flynedd o "wasanaeth cenedlaethol".

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Cychwynodd ar ei yrfa fel athro, gan ddechrau am ychydig yn Ysgol Ramadeg Ffestiniog, cyn symud i ysgol gynradd Trawsfynydd am ddwy neu dair blynedd. Oddi yno symudodd i Ysgol y Bechgyn, Maenofferen; ac yna, ym 1963, i ysgol gynradd y Manod. Yno y bu nes iddo ymddeol, yn gynnar, tua 1983. Priododd ag Anwen yng nghapel y Wesleaid, Talsarnau ym 1974 a symudasant i fyw i Landecwyn, ger Talsarnau.

Roedd Ted yn un o naturiaethwyr amlycaf Cymru gan ymddangos yn gyson ar y cyfryngau. Roedd hefyd yn adarydd, ffotograffydd, darlithydd ac awdur. Roedd yn aelod o banel rhaglen BBC Radio Cymru Seiat Byd Natur a chyfrannodd i nifer o raglenni teledu.

Yn dilyn ei farwolaeth yn 68 mlwydd oedd, daeth criw o'i ffrindiau ynghyd â phenderfynu sefydlu Cymdeithas Ted Breeze Jones, er budd adar a bywyd gwyllt er cof amdano ac mewn gwerthfawrogiad o'i gyfraniad i fyd natur.

Dyddiadur[golygu | golygu cod]

Fe gadwodd ddyddiadur[3] lle cofnododd ei anturiaethau adaryddol a'r bobl (dynion i gyd) o'r un anian ag o. Dyma un cofnod doniol a dadlennol o safbwynt naturiathol, o 1945 pan oedd yn 17 mlwydd:

30 Mawrth 1945: Pleser o’r mwyaf oedd gweld y “Brimstone Butterfly” i’r Domen Ludw [Trawsfynydd?]. Ceisiais ei ddal gyda badell ffrio [sic.] ond heb lwyddiant. Ni welais y glöyn yma o’r blaen. Sylwais ar y “Peacock” a’r “Tortoiseshell” yn mwynhau y tywydd tyner a gawsom yn ystod yr wythnos.

Yn ôl y rhannau o'r dyddiadur a godwyd hyd yma o'r papurau sydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cryn syndod i'r rhai ohonom oedd yn ei adnabod fel person canol oed fel Cymro glân Cymraeg, yw darganfod mai yn Saesneg, a hynny'n Saeneg coeth iawn, y bu'n cadw ei ddyddiadur am ryw hyd o 1949 ymlaen. Patrwm tebyg sydd i'w weld yng ngwaith ei gyfaill T.G. Walker. Dylanwad oedd hyn mae'n debyg o Prydeindod Seisnig y cyfnol ôl-ryfel.

Llyfryddiaeth (dethol)[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Ted Breeze Jones - 'Dyn yr Adar'. Cymdeithas Ted Breeze.
  2. Dyn 'i fryd ar Gyfeillion pluog. , Daily Post, 7 Rhagfyr 2002. Cyrchwyd ar 28 Medi 2016.
  3. Dyddiadur Ted Breeze-Jones

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]