Tea Cosy Pete

Oddi ar Wicipedia
Tea Cosy Pete
FfugenwTea Cosy Pete Edit this on Wikidata
Ganwyd1949 Edit this on Wikidata
Caerfaddon Edit this on Wikidata
Bu farw26 Ionawr 2015 Edit this on Wikidata
Ysbyty Treforus, Abertawe Edit this on Wikidata
Man preswylAbertawe Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethtrempyn Edit this on Wikidata

Trempyn a drigai yn ninas Abertawe oedd Brian Burford (1949 - 26 Ionawr 2015)[1] Cawsai ei adnabod orau o dan ei ffugenw Tea Cosy Pete am fod yr het a wisgai'n debyg i orchudd tebot. Roedd yn gymeriad cyfarwydd iawn i drigolion y ddinas a phan fu farw, codwyd dros £3,000 er mwyn cael cofeb iddo yn y ddinas.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod]

Ganwyd Brian yng Nghaerfaddon ond symudodd i Abertawe pan oedd yn ei arddegau.[2]. Mynychodd Ysgol Ramadeg Dinefwr yng nghanol y ddinas yn yr un cyfnod a chyn-Archesgob Caergaint, y Dr. Rowan Williams.

Honnir iddo fyw bywyd anghonfensiynol pan gafodd ei wrthod o Brifysgol Rhydychen ac wedi marwolaeth ei frawd. Treuliodd 30 mlynedd yn byw ar strydoedd Abertawe.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Yn Sgwar y Castell yng nghanol y ddinas ar 26 Ionawr 2015, dioddefodd Brian stroc. Cafodd ei ruthro i Ysbyty Treforys lle bu farw'n ddiweddarach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]