Tatra Uchel
Cadwyn o fynyddoedd yw'r Tatra Uchel neu'r Tatrau Uchel (Slofaceg a Tsieceg: Vysoké Tatry, Pwyleg: Tatry Wysokie) ar y ffin rhwng Slofacia a Gwlad Pwyl yng Nghanolbarth Ewrop. Maent yn rhan o'r Tatra Dwyreiniol yng nghadwyn y Carpatiau.
[golygu] Disgrifiad
Gyda 11 copa dros 2500 m, y Tatra Uchel, ynghyd â'r Carpatiau Deheuol, yw'r unig gadwyn o gymeriad alpaidd yng nghadwyn 1200 km y Carpatiau. Gorwedd y rhan fwyaf o'r copaon uchaf yn Slofacia: yr uchaf o'r rhain yw Gerlachovský štít (2,655 m).
Mae sawl rhywogaeth brin o anifeiliaid a phlanhigion i'w cael yn y Tatra Uchel. Mae'n gynefin i famaliaid ysglyfaethus mawr fel eirth, lynx Ewrasiaidd, bleiddiaid a llwynogod, ynghyd â sawl rhywogaeth o adar prin.
Mae'n ardal yn ganolfan chwaraeon gaeaf. Mae canolfannau gwyliau sgïo adnabyddus yn cynnwys Štrbské pleso, Starý Smokovec a Tatranská Lomnica yn Slofacia a Zakopane, yr enwocaf efallai, yng Ngwlad Pwyl. Tref Poprad yw'r porth i gyrraedd canolfannau chwaraeon gaeaf y Tatra Slofaciaidd.
Sefydlwyd y parc cenedlaethol traws-ffin cyntaf yn Ewrop yma, sef Parc Cenedlaethol Tatra - parc Tatranský národný yn Slofacia yn 1948 a Tatrzański Park Narodowy yng Ngwlad Pwyl, yn 1954.
[golygu] Copaon
Y 15 copa uchaf, i gyd yn Slofacia, yw:
| Peak | Elevation (m|ft) | |
|---|---|---|
| Gerlachovský štít | 2,655 | 8,711 |
| Gerlachovská veža | 2,642 | 8,668 |
| Lomnický štít | 2,633 | 8,638 |
| Ľadový štít | 2,627 | 8,619 |
| Pyšný štít | 2,623 | 8,605 |
| Zadný Gerlach | 2,616 | 8,583 |
| Lavínový štít | 2,606 | 8,550 |
| Malý Ľadový štít | 2,602 | 8,537 |
| Kotlový štít | 2,601 | 8,533 |
| Lavínová veža | 2,600 | 8,530 |
| Malý pyšný štít | 2,591 | 8,501 |
| Veľká Litvorová veža | 2,581 | 8 468 |
| Strapatá veža | 2,565 | 8,415 |
| Kežmarský štít | 2,556 | 8,386 |
| Vysoká | 2,547 | 8,356 |
[golygu] Dolenni allanol
- (Saesneg) Tatry Open Directory