Tatort

Oddi ar Wicipedia

Mae Tatort (sef "man trosedd"), a ddarlledir yn yr Almaen ac Awstria, a'r Swistir gynt, yn gyfres deledu a osodir mewn gwahanol barthau o'r gwledydd hyn. Mae'r sioe yn cael ei darlledu gan ARD yn yr Almaen ac ORF yn Awstria. Darlledwyd y bennod gyntaf ar 29ain Tachwedd 1970. Mae cynulleidfa graidd y gyfres hon wedi aros yr un fath dros y degawdau, rhywbeth hynod anarferol ar gyfer cyfres deledu gyfoes o'r fath sydd wedi rhedeg am amser hir.

Mae pob un o'r sianeli teledu rhanbarthol sy'n ffurfio ARD (ac ORF hefyd) yn cynhyrchu penodau, gyda rhai o arolygwyr yr heddlu ei hun (neu dîm o arolygwyr) yn dod yn eiconau diwylliannol, fel Schimanski (a bortreadir gan Götz George).

Ymddengys y sioe ar ARD ar y Sul 8.15 yh, ac ar hyn o bryd mae tua 30 o achosion yn cael eu trin bob blwyddyn. Cynhyrchwyd cyfanswm o tua 770 episodau hyd at fis Mawrth 2010.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]