Tarddiad iaith

Oddi ar Wicipedia

Mae tarddiad iaith (Saesneg: glottogony) yn bwnc sydd wedi denu llawer o sylw drwy hanes. Mae'r defnydd o iaith yn un o'r nodweddion sy'n gwahaniaethu bodau dynol a phob rhywogaeth arall. Yn wahanol i ysgrifen, dydy iaith lafar ddim yn gadael tystiolaeth gadarn o'i natur neu ei bodolaeth. Felly mae'n rhaid i wyddonwyr droi at ddulliau anuniongyrchol o geisio darganfod ei tharddiad.

Mae ieithyddion yn cytuno nad oes ieithoedd cyntefig yn bodoli heddiw a bod bodau dynol modern i gyd yn siarad ieithoedd o gymhlethdod cymharol. Tra bod ieithoedd modern yn gwahaniaethu o ran maint, pwnc a geirfa, mae ganddynt i gyd y gramadeg a'r gystrawen sy'n hanfodol ar gyfer cyfathrebu, ac fe allant ddyfeisio, cyfieithu, neu fenthyg yr eirfa sy'n hanfodol i fynegi ystod lawn o gysyniadau'r siaradwyr. Mae gan bob plentyn y gallu i ddysgu iaith, ac ni enir yr un plentyn gyda'r cyn-anianawd i ffafrio un iaith (neu fath o iaith) dros eraill.

Efallai y daeth iaith ddynol o'r trawsnewidiad i ymddygiad modern tua 164,000 o flynyddoedd yn ôl yn y cyfnod Paleolithig diweddar. Tybiaeth gyffredin yw y cyd-ddigwyddodd ymddygiad modern a dyfodiad iaith, a bod y ddau'n dibynnu ar ei gilydd. Gwthiai eraill darddiad iaith 200,000 o flynyddoedd yn ôl, sef amser ymddangosiad Homo sapiens hynafol (Paleolithig Canol), neu hyd yn oed i'r Paleolithig Cynnar (tua 500,000 o flynyddoedd yn ôl). Mae'r cwestiwn hwn yn dibynnu'n sylweddol ar y farn a gymerir ar sgiliau cyfathrebu'r Dyn Neanderthal. Tybia rhai ieithyddion fod yna gyfnod hir o gyn-iaith, hanner ffordd rhwng lleisiad primasau di-ddynol ac iaith lawn-datblygedig bodau dynol, tra bod ieithyddion eraill yn gweld dyfodiad iaith fel digwyddiad sydyn a ddigwyddodd o ganlyniad i fiwtaniad genetig.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.