Tali Sharon

Oddi ar Wicipedia
Tali Sharon
Ganwyd13 Chwefror 1979 Edit this on Wikidata
Hod HaSharon Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Israel Israel
Galwedigaethactor, actor llwyfan Edit this on Wikidata

Actores deledu, theatr a ffilm Israeli yw Tali Sharon (Hebraeg טלי שרון) (ganwyd 13 Chwefror 1979). Fe'i ganed a maged yn Hod HaSharon, tref i'r gogledd o Tel Aviv. Ystyr enw'r dref yw "Gogoniant [gwastatir] y Sharon".

Rhannau[golygu | golygu cod]

Bydd yn fwyaf adnabyddus ym Mhrydain am ei rhan fel Hodaya yn y gyfres Israeli Srugim [1] sy'n ymddangos ar sianel Amazon Prime.[2] Mae'r ddrama tair gyfres am fywyd a helbulon griw o ffrindiau Iddewig uniongred sy'n ceisio canfod cariad a phartner oes. Mae ei rhan yn ferch i rabbi sy'n raddol colli ei ffydd ac yn chwilio am gariad.

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Behind the Sun (2003) - rhan Namma.[3] Yn Hebraeg.
  • In Therapy (2005) - ffilm am seicotherapydd a'i gleifion a'i hun.[4] Yn Hebraeg.
  • Three Mothers - tair chwaer, triplets a ganwyd yn yr Aifft sydd bellach yn ei 60au ac yn byw yn Israel. Yn Hebraeg.[5]
  • Out of Sight (2006) - cyf. Daniel Syrkin. Mae'n chwarae rhan Ya'ara, y prif gymeriad dall.[6]
  • She Is Coming Home (2013) - rhan Michal, cyfarwyddwraig di-waith sy'n cwympo mewn cariad gyda dyn hŷn.[7] Herbaeg
  • Harmonia (2016) ffilm am berthynas anghymarus rhwng cerddor Palesteinaidd a dynes Iddewig, Sarah (Sharon) yn Jeriwsalem, yn seiliedig yn fras ar hanes Genesis [8] Yn Hebraeg ac Arabeg

Personol[golygu | golygu cod]

Gwasanaethodd fel parafeddyg yn y fyddin yn ystod ei chyfnod gwasanaeth cenedlaethol.[9] Priododd â actor Assaf Salomon yn 2012 ac mae ganddynt dair o ferched. Ganed ei merch gyntaf yn 2010 cyn iddynt briodi.[10]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. https://slate.com/culture/2014/06/israeli-tv-series-srugim-reviewed.html
  2. https://www.amazon.com/Srugim/dp/B00DTP198A
  3. https://www.filmiwiki.com/wiki/movies/9739324-things-behind-the-sun[dolen marw]
  4. https://www.imdb.com/title/tt0466345/?ref_=nmbio_mbio
  5. https://www.filmiwiki.com/wiki/movies/1409495-three-mothers[dolen marw]
  6. https://www.filmiwiki.com/wiki/movies/756602-out-of-sight[dolen marw]
  7. https://www.filmiwiki.com/wiki/movies/1066375-she-is-coming-home[dolen marw]
  8. https://www.filmiwiki.com/wiki/movies/375456-harmonia[dolen marw]
  9. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-08-08. Cyrchwyd 2018-12-17.
  10. https://www.ynet.co.il/articles/0,7340,L-3989498,00.html