Taleithiau Armenia

Oddi ar Wicipedia
Taleithiau Armenia

Rhennir Armenia yn 11 o israniadau gweinyddol. O'r 11 israniad hyn, mae 10 ohonynt yn cael eu galw yn daleithiau (marz մարզ).

Mae gan Yerevan, prifddinas y wlad, statws arbennig. Gelwir prif weithredwr pob un o'r 10 marz yn marzpet, ac fe'i apwyntir gan lywodraeth Armenia. Yn Yerevan, mae'r prif weithredwr yn cael ei alw yn faer ac yn cael ei apwyntio'n uniongyrchol gan Arlywydd Armenia.

Y taleithiau[golygu | golygu cod]

Nodyn: Mae'r rhifau o flaen y taleithiau yn cyfateb i'r rhifau a welir at y map. Nodir prifddinas y dalaith (ac eithrio Yerevan).

  1. Aragatsotn (prifddinas: Ashtarak)
  2. Ararat (prifddinas: Artashat)
  3. Armavir (prifddinas: Armavir)
  4. Gegharkunik (prifddinas: Gavar)
  5. Kotayk (prifddinas: Hrazdan)
  6. Lori (prifddinas: Vanadzor)
  7. Shirak (prifddinas: Gyumri)
  8. Syunik (prifddinas: Kapan)
  9. Tavush (prifddinas: Ijevan)
  10. Vayots Dzor (prifddinas: Yeghegnadzor)
  11. Yerevan

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Taleithiau Armenia Baner Armenia
Aragatsotn | Ararat | Armavir | Gegharkunik | Kotayk | Lori | Shirak | Syunik | Tavush | Vayots Dzor | Yerevan