Talal, brenin Iorddonen

Oddi ar Wicipedia
Talal, brenin Iorddonen
Ganwyd26 Chwefror 1909 Edit this on Wikidata
Mecca Edit this on Wikidata
Bu farw7 Gorffennaf 1972, 8 Gorffennaf 1972 Edit this on Wikidata
Istanbul Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Otomanaidd, Trawsiorddonen, Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Coleg Milwrol Brenhinol, Sandhurst Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
SwyddBrenin Gwlad Iorddonen Edit this on Wikidata
TadAbdullah I, brenin Iorddonen Edit this on Wikidata
MamMusbah bint Nasser Edit this on Wikidata
PriodZein Al-Sharaf Talal Edit this on Wikidata
PlantHussein, brenin Iorddonen, Y Tywysog Muhammad Bin Talal o Jordan, Tywysog El Hassan Bin Talal o Jordan, Tywysoges Basma Bint Talal o Jordan Edit this on Wikidata
LlinachHashimiaid Edit this on Wikidata
Gwobr/auOrder of al-Hussein bin Ali, Supreme Order of the Renaissance, Order of the Star of Jordan, Urdd yr Hashimites, Urdd Al Rafidain, Croes fawr teilyngdod milwrol, adran wen Edit this on Wikidata

Brenin Gwlad Iorddonen o 1951 hyd 1952 oedd Talal I bin Abdullah (26 Chwefror 19097 Gorffennaf 1972).

Ganwyd Talal ym Mecca ym 1909. Ym 1929 daeth yn yr Iorddoniad cyntaf i raddio o Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst. Gwasanaethodd fel swyddog yn y Fyddin Arabaidd a bu'n ymladd yn erbyn yr Iddewon yn Jeriwsalem, Ramallah a threfi eraill ym Mhalesteina.[1] Priododd Zein al-Sharaf ym 1934 a chafodd tri mab, Hussein, Muhammad ac Hassan, ac un ferch, Basma. Bu farw'r Dywysoges Asma a'r Tywysog Muhsin yn ifanc.

Daeth Talal i'r orsedd yn sgil bradlofruddiaeth ei dad Abdullah I ar 20 Gorffennaf 1951. Yn ystod ei deyrnasiad byr lluniwyd cyfansoddiad rhyddfrydol i'r wlad a ddatganodd Gwlad Iorddonen yn rhan o'r genedl Arabaidd. Yn ogystal gwnaed y llywodraeth yn atebol i'r senedd dan delerau'r cyfansoddiad, a chyflwynodd addysg orfodol am ddim i'r wlad.[1]

Ar 11 Awst 1952 datganodd Senedd Gwlad Iorddonen yr oedd Talal yn dioddef o sgitsoffrenia ac yn anghymwys i deyrnasu, gan drosglwyddo'r goron i'w fab Hussein. Ymddiorseddodd Talal heb brotest ac ymgartrefodd yn Istanbwl, a bu farw yno ym 1972.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) King Talal remembered. The Jordan Times (6 Gorffennaf 2013). Adalwyd ar 20 Gorffennaf 2014.
  2. (Saesneg) Cavendish, Richard (2002). Hussein made King of Jordan. History Today. Adalwyd ar 20 Gorffennaf 2014.