Bolzano (talaith)
Talaith yng ngogledd yr Eidal yw Talaith Ymreolaethol Bolzano-Alto Adige (Eidaleg: Provincia autonoma di Bolzano-Alto Adige, Almaeneg: Autonome Provinz Bozen-Südtirol, Ladino: Provinzia Autonòma de Balsan-Südtirol. Ffurfiwyd y dalaith o ran ddeheuol ardal hanesyddol y Tirol, a chyfeirir at yr ardal fel Alto Adige mewn Eidaleg a Südtirol mewn Almaeneg.
Mae'r dalaith yn ffurfio rhan ogleddol rhanbarth Trentino-Alto Adige. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 476,000. Y brifddinas yw Bolzano. Mae'r ardal yn dairieithog: Almaeneg, Eidaleg a Ladino, gyda siaradwyr Almaeneg fel maniaith yn y mwyafrif.
Hyd at 1918, roedd yr ardal yn rhan o Ymerodraeth Awstria, ond wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf daeth yn rhan o'r Eidal. Yng nghyfrifiad 1910, roedd llai na 3% o'r boblogaeth yn siarad Eidaleg fel mamiaith, ond dan lywodraeth Mussolini gwnaed ymdrech fawr i Eidaleiddio'r ardal.
Y sefyllfa ieithyddol yn ôl cyfrifiad 2001 oedd:
Mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad Almaeneg fel mamiaith mewn 103 allan o 116 cymuned y dalaith. Mewn 8 cymuned, siaradwyr Ladino sydd yn y mwyafrif.