Takht-e Suleyman
Oddi ar Wicipedia
Cadwyn o fynyddoedd yn Iran yw'r Takht-e Suleyman (Perseg: بلندیهای تخت سليمان). Mae'n is-gadwyn yng nghadwyn yr Alborz. Ceir tua 160 copa sy'n uwch na 4,000m: yr uchaf, a'r enwocaf gan fynyddwyr, yw Alam Kuh, 4,850m. Mae'r gadwyn yn gorwedd o fewn ardal sy'n mesur tua 30 km p led a 40 km o hyd. I'r de ceir dyffryn Taleqan, llwyfandir Kelardasht i'r dwyrain, coedwig Abbas Abad i'r gogledd, a Shahsavar a dyffryn Se Hezar i'r gorllewin.
Prif gopaon y Takht-e Suleyman[golygu]
| Mynydd | Uchder(m) |
|---|---|
| Alam Kuh | 4850 |
| Gogledd Khersan | 4680 |
| De Khersan | 4659 |
| Mynydd Takht-e-Suleyman | 4659 |
| Siahsang | 4604 |
| Haft khan | 4537 |
| Chaloon | 4516 |
| De Siahgook | 4500 |
| Gogledd Siahgook | 4445 |
| Siah Kaman | 4472 |
| Shaneh kuh | 4465 |
| Kalahoo | 4412 |
| Gardoon kuh | 4402 |
| Mian-sechal | 4348 |
| Lashgarak | 4256 |
| Zarin kuh | 4200 |
| Alanehsar | 4050 |
| Korma kuh | 4020 |
| Pasand kuh | 4000 |
| Siahleiz | 3975 |