Taj Mahal

Oddi ar Wicipedia
Taj Mahal
Mathmawsolëwm, beddrod, atyniad twristaidd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMumtaz Mahal Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1631 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAgra Edit this on Wikidata
GwladBaner India India
Arwynebedd17 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau27.1742°N 78.0422°E Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolpensaernïaeth Islamaidd, pensaerniaeth Iranaidd, pensaerniaeth Mughalaidd Edit this on Wikidata
Statws treftadaethHeneb o Bwysigrwydd Cenedlaethol, Safle Treftadaeth y Byd Edit this on Wikidata
Sefydlwydwyd ganShah Jahan Edit this on Wikidata
Cost32,000,000 $ (UDA) Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddmarmor Edit this on Wikidata

Mae'r Taj Mahal (Hindi : ताज महल, Wrdw : تاج محل) yn gasgliad o adeiladau a adeiladwyd rhwng 1631 a 1654 yn ninas Agra, India, ar lannau Afon Yamuna, gan yr ymerawdwr Mughal Sha Jahan. Bwriedid yr adeiladau i goffáu ei brif wraig, Arjumand Bano Begum, mwy adnabyddus fel Mumtaz Mahal, a fu farw ar enedigaeth ei 14eg plentyn. Amcangyfrifir i tua 20,000 o weithwyr gael eu defnyddio.

Ystyrir y Taj Mahal fel yr esiampl orau o bensaernïaeth y Mughal, sy'n cyfuno elfennau o bensaernïaeth Islamaidd, Persaidd a Thwrcaidd. Y rhan fwyaf adnabyddus yw mawsolewm Mumtaz Mahal, gyda'i gromen o farmor gwyn, ond mewn gwirionedd mae nifer o adeiladau yn rhan o'r Taj Mahal.