Tafodieitheg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Diffinir tafodieitheg fel ‘gwyddor tafodieithoedd’ neu ‘the systematic study of dialect’. Math o iaith a ddefnyddir mewn man penodol yw tafodiaith. Weithiau cyfeirir at dafodieithoedd cymdeithasol, ffurfiiau ar iaith a siaredir gan grŵp cymdeithasol penodol. Mae pob math o iaith sy'n nodweddiadol o ardal neu ranbarth neu wlad arbennig yn dafodiaith, ond weithiau defnyddir y termau tafodiaith neu dafodiaith draddodiadol i ddynodi ffurf wledig ar iaith a siaredir mewn ardal cyfyng ac sy'n wahanol iawn i'r iaith safonol. Gwneir felly cyferbyniad rhwng tafodieithoedd safonol neu dafodieithoedd dinesig neu ranbarthol a thafodieithoedd lleol. Gwahaniaethir hefyd rhwng acen a thafodiaith: mae acenion un iaith yn gwhaniaethu oddi wrth ei gilydd drwy ynganiad gwahanol, ond mae gwahaniaethau rhwng tafodieithoedd yn cwmpasu nodweddion gramadegol (gan gynnwys morffoleg a cystrawen) hefyd.

Diffinio ffiniau tafodieithoedd[golygu]

Evans a Davies (2000): “Daeth geiriau megis jwmpo, deseido, canslo, enjoyo ac iwso yn rhan annatod o’n hiaith, a’r tristwch yw na ŵyr y to ifanc yn well”. Anghywir yw'r dyfyniad - mae’r geiriau wedi cael eu defnyddio ers canrifoedd. Dyma enghraifft o bobl yn delfrydu’r gorffennol wrth ddelfrydu iaith safonol - ond ni ellir stopio iaith rhag newid. Yn naturiol, bydd pob cenhedlaeth yn meddwl eu bod yn well. Anodd iawn yw dweud fod gair yn dod o un ardal benodedig: Francis (1985) “It appears… that we cannot precisely define our subject matter… dialect boundaries are usually elusive to the point of non-existence”. Ceir agwedd ramantus tuag at y tafodieithoedd yn deillio’n ôl canrifoedd.

Gwahaniaethu rhwng ieithoedd a thafodiethoedd[golygu]

Amrywiadau oddi mewn un iaith yw ei thafodieithoedd. Yn aml, ceir enwau ar dafodieithoedd – ‘iaith Shir Gar’, ‘iaith y Rhos’ ac yn fwy diweddar ‘siarad Gog’. Er y gwahaniaethau hyn, mae pawb yn derbyn ein bod yn siarad ‘Cymraeg’. Fodd bynnag, gallwn ddeall llawer o eiriau Llydaweg felly pam na chaiff hi ei hystyried fel tafodiaith i’r Gymraeg? Ceir llawer o wahaniaethau ieithyddol yn bodoli rhwng y ddau, anodd i Gymro/Gymraes ddeall Llydaweg – felly rhaid eu hystyried yn ddwy iaith wahanol.

Nid yw’r berthynas rhwng iaith a thafodiaith wastad mor glir â pherthynas y Gymraeg a’r Llydaweg. Os yn teithio o Ffrainc i’r Eidal, ni fydd ffin wleidyddol yn rhwystro trigolion pentrefi rhag cyfathrebu - parhawd dafodieithol sydd. Rydym yn ystyried pobl Ffrainc i siarad Ffrangeg ond yr unig beth sy’n cefnogi hyn yw’r iaith mae’r wladwriaeth yn ei hyrwyddo. Pan fydd gwledydd yn ffurfioli ei hiaith, byddant yn mabwysiadu iaith y wladwriaeth. - e.e. arwyddion ffyrdd Ffrangeg yn Ffrainc. Daw cyfeirio at ffurfioli iaith a ni at ystyriaeth hanfodol wrth drafod tafodiaith sef perthynas yr iaith a’r gymdeithas sydd yn ei defnyddio. Mae pob tafodiaith wedi datblygu dros ganrifoedd gan gael eu heffeithio gan ddylanwadau di-ri. Bydd tafodiaith felly yn adlewyrchu cysylltiadau rhwng ardaloedd eraill, a'u mynd a’u dod o ardal i ardal. Ceir perthynas rhwng y nodweddion hyn a ffiniau daearyddol megis mynyddoedd/afonydd. Heddiw, nid yw’r rhwystrau daearyddol mor bwysig oherwydd gwelliant mewn technoleg a thrafnidiaeth: S4C yn dod ag acenion o bob rhan o’r wlad i gartrefi ar led Cymru. Cyfranna'r datblygiadau at lefelu’r gwahaniaethau tafodieithol.

Wrth ddiffinio tafodieitheg ceir tuedd i gondemnio geiriau benthyg - ond mae geiriau benthyg yn rhan enfawr o bob iaith dan haul - gan y Saesneg eiriau benthyg nifer eang o ieithoedd. Ceir agwedd cymysg at dafodieithoedd yng Nghymru - e.e. Syr John Morris-Jones ar ddechrau’r ganrif yn ceisio safoni orgraff a gramadeg yr iaith ac yn drwm ei law ar dafodieitheg. Ni ellir gwadu cyfraniad Morris-Jones at iaith ysgrifenedig Cymru ond purydd oedd y gŵr ac fe gondemniodd nifer o ffurfiau tafodieithol. Dywed “the various dialects represent different corruptions”. Anghytuna Hugh Evans wrth ddweud bod tafodieitheg yn hybu ysgrifennu Cymraeg - buasai ofn gwallau yn atal pobl rhag ysgrifennu. Cefnogir y gosodiad hwn gan ddisgrifiadau nifer o Gymry at dafodieithoedd eu hunain - ‘Cymraeg shiprys’, 'Cymraeg pot jam'. Gan bron bob ardal term i ddisgrifio’r iaith ‘ddiffygiol’ y credant yw eu tafodiaith.

Agweddau at dafodiaith[golygu]

Mae nifer yn codi’r cwestiwn os ‘yw un dafodiaith yn fwy derbyniol na’r llall?’ - h.y. fod rhai nodweddion tafodieithol yn fwy derbyniol nag eraill. Cred nifer ym Morgannwg fod yr iaith yn gwella wrth deithio tua'r gogledd “mynd cam arall i Geredigion ac mae’n well fyth. On’ pan bo’ chi’n mynd i’r gogledd, ych chi’n cyrradd y pen ucha yn y iaith”. Mae'r datblygiad mewn darlledu yn yr iaith Gymraeg wedi rhoi mwy o bwyslais ar yr iaith lafar ond mae’n ddigon posibl na fydd dod ag acenion eraill i gartrefi ond yn cadarnhau’r rhagfarnu sydd eisoes yn bod.

Er gwaetha pob barn a rhagfarn, mae lle canolog i’n tafodieithoedd - un o brif nodweddion ein cenedlaetholdeb yw ‘perthyn’ a bydd clywed tafodiaith Gymraeg yn peri sgwrs anochel ar diroedd estron. Gall clywed gair tafodieithol estron ehangu dysg neu achosi cweryla chwyrn megis bod bwrdd yn air gwell na bord, a bod rŵan ddim yn air o gwbl. Nid oes y fath beth a ‘thafodiaith bur’, ac nid oes unrhyw eiriau yn ‘well’ na’i gilydd. Mater o agwedd yw ‘purdeb’ a ‘chywirdeb’ - mae'r tafodieithoedd yn adlewyrchu'r iaith fel y'i siaredir gan ei siaradwyr yn hytrach na'r iaith lenyddol.

Ffynonellau[golygu]

  • Francis, W. N. 1983. Dialectology: An introduction. Llundain: Longman.
  • Evans a Davies (2000): cyfeiriad yn eisiau.

Darllen pellach[golygu]

  • Chambers, J. K., and Trudgill, Peter. 1998. Dialectology. Caergrawnt: Cambridge University Press.
  • Thomas, Beth, a Thomas, Peter Wynn. 1989. Cymraeg, Cymrâg, Cymrêg. Cyflwyno'r tafodieithoedd. Cardydd: Gwasg Taf.