Tŷ Anne Frank

Oddi ar Wicipedia

Neidio i: llywio, chwilio
Pobl yn ciwio o flaen yr amgueddfa

Mae Tŷ Anne Frank ar y Prinsengracht yn Amsterdam, Yr Iseldiroedd, yn amgueddfa o fywyd Anne Frank, y ferch ifanc, Iddewig a gadwodd ddyddiadur yn ystod yr Ail Rhyfel Byd. Cuddiodd Frank a'i theulu o erledigaeth y Natsiaid trwy guddio mewn ystafelloedd cudd yng nghefn yr adeilad. Yn ogystal â chadw'r man cuddio am resymau hanesyddol, mae'r amgueddfa hefyd yn cynnwys arddangosfa o fywyd Anne Frank a'r cyfnod roedd hi'n byw ynddo. Mae'r amgueddfa yn ganolfan sy'n arddangos pob math o erledigaeth a rhagfarn.

Agorodd yr amgueddfa ar y 3ydd o Fai, 1960 gyda chefnogaeth ariannol y cyhoedd, tair blynedd ar ôl i gymdeithas gael ei sefydlu er mwyn amddiffyn yr adeilad rhag datblygwyr ac adeiladwyr a oedd eisiau dymchwel yr adeilad.

[golygu] Dolenni Allanol

Wiki letter w.svg   Eginyn erthygl sydd uchod. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.