Tŷ'r Forwyn Fair

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Tŷ'r Forwyn Fair heddiw

Yn ôl traddodiad Cristnogol, treuliodd y Forwyn Fair, mam Iesu Grist, ei dyddiau olaf yn Effesus yn Asia Leiaf (Twrci heddiw) yng nghwmni Sant Ioan.

Dywedir iddi farw mewn tŷ my mhentref bach Panaya Kapuhi, yn y bryniau ger hen ddinas Rufeinig Effesus, ar y ffordd rhwng y safle hwnnw a Seljuk. Cyfeirir at hynny mor gynnar â'r flwyddyn OC 431. Tybir fod y tŷ presennol, sydd wedi ei adnewyddu, yn sefyll ar safle eglwys gynnar yn perthyn i'r 4edd ganrif, ond nid oes sicrwydd o hynny.

Dywedir hefyd iddi gael ei chladdu gerllaw y tŷ, ond nid oes olion o'i bedd i'w gweld heddiw.

Mae'r tŷ yn gyrchfan pererindod poblogaidd gan Gristnogion a Mwslemiaid fel ei gilydd.

Llyfryddiaeth[golygu]

  • W. Emlyn Jones, Y Saith Ganhwyllbren Aur (Llandybïe, 1969)