Tŷ'r Cyffredin (Canada)
| Tŷ'r Cyffredin Canada Chambre des communes du Canada |
|
|---|---|
| Y 41fed eisteddiad o'r Llywodraeth | |
| 95px | |
| Math | |
| Math | Tŷ Isaf Llywodraeth Canada |
| Arweinyddiaeth | |
| Y Llefarydd | Andrew Scheer, Plaid Geidwadol Canadaay ers 2 Mehefin 2011 |
| Plaid Geidwadol Canada | Peter Van Loan, Plaid Geidwadol Canada ers 18 Mai 2011 |
| Arweinydd yr Wrthblaid | Nathan Cullen, NDP ers 20 Ebrill 2012 |
| Strwythur | |
| Aelodau | 308 |
| Grwpiau gwleidyddol |
Plaid Geidwadol Canada (165) NDP (100) Rhyddfrydwyr (35) Bloc Québécois (5) Y Blaid Werdd (1) Ceidwadwyr Annibynol (1) Annibynwyr (1) |
| Etholiadau | |
| System pleidleisio | Etholiadau yn yr etholaethau |
| Etholiad diwethaf | Etholiad Ffederal Canada, 2 Mai 2011 |
| Man cyfarfod | |
| Y Bloc Canol Parliament Hill Ottawa, Ontario Canada |
|
| Gwefan | |
| Llywodraeth Canada | |
Siambr isaf Senedd Canada yw Tŷ'r Cyffredin (Saesneg House of Commons, Ffrangeg Chambre des communes). Mae'r tŷ yn cynnwys 308 o aelodau (aelodau seneddol neu ASau), wedi eu hethol yn ddemocrataidd drwy system 'y cyntaf i'r felin'. Etholir aelodau am gyfnod o bum mlynedd neu lai os yw'r tŷ yn cael ei ddatod ynghynt na hynny. Mae pob aelod yn cynrhychioli un etholaeth (Saesneg ridings neu constituencies, Ffrangeg circonscriptions neu comtés).
Sefydlwyd Tŷ'r Cyffredin ym 1867, pan luniwyd Dominiwn Canada o dan Deddf Gogledd America Prydeinig 1867 (British North America Act 1867). Dilynodd y tŷ batrwm Tŷ'r Cyffredin ym Mhrydain.
Cynnwys presennol Tŷ'r Cyffredin yw:
| Plaid | Aelodau |
| Plaid Geidwadol Canada | 165 |
| Plaid Ddemocrataidd Newydd | 100 |
| Plaid Ryddfrydol Canada | 35 |
| Bloc québécois | 5 |
| Plaid Werdd Canada | 1 |
| Annibynnwyr | 2 |
| Cyfanswm | 308 |