Tŷ'r Barnwr
Oddi ar Wicipedia
| Cartre'r Barnwr | |
|---|---|
Cartref y barnwr yn y 19eg ganrif. |
|
| Enwau blaenorol |
|
| Gwybodaeth gyffredinol | |
| Cyfeiriad | Whitecross Street |
| Tref neu ddinas | Trefynwy |
| Gwlad | Cymru |
| Cyfesurynnau | 51°48′47″N 2°42′43″W / 51.81306°N 2.71193°W |
| Gorffenwyd | 1756 |
| Cofrestrwyd | Cofrestrwyd fel Gradd II |
Adeilad sy'n perthyn i'r 18ed ganrif ydy Tŷ'r Barnwr, sydd wedi'i leoli yn Stryd Whitecross, Sgwâr Sant Ioan, Trefynwy, de Cymru. Mae rhannau o'r adeilad yn dyddio'n ôl i'r 16eg ganrif. Newidiwyd yr enw i'r 'Labour in Vain' tua 1756. Gwyddem iddo gael ei ddefnyddio fel cartref barnwr ym 1835. Erbyn yr 1870au roedd defnydd milwrol i'r lle, pan brynwyd y tŷ gan Beirianwyr Brenhinol Sir Fynwy.
Erbyn heddiw, tŷ preifat ydyw, gyda thyddyn bychan yn y cefn. Mae wedi'i gofrestru gan Cadw fel adeilad Gradd II.[1] Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas).
Gweler hefyd [golygu]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ No.27, St. James' Garage (tu blaen yn unig), Whitecross Street, Monmouth. Adalwyd yn Ionawr, 2012