System cadw taid-tad-mab

Oddi ar Wicipedia

System o gadw copïau o ffeiliau cyfrifiadurol ydy system cadw taid-tad-mab.

Er pob gofal, gall y data ar brif ffeil gael ei ddinistrio - gan ddefnyddiwr dibrofiad, methiant y cyflenwad trydan, tân neu ladrad. Gallai colli data hanfodol fod yn drychinebus i gwmni mawr. Ond trwy ddefnyddio’r egwyddor taid-tad-mab mae’n bosibl ail-greu'r brif ffeil os oes angen.

Mae tair cenhedlaeth o ffeiliau yn cael eu cadw. Y brif ffeil hynaf yw'r taid-ffeil, sy'n cael ei chadw gyda'i ffeil drafodion. Defnyddir y ddwy ffeil hyn i gynhyrchu prif ffeil newydd, y tad-ffeil sydd, gyda'i ffeil drafodion, yn cael ei defnyddio i greu'r ffeil ddiweddaraf, y mab-ffeil. Caiff y broses ei hailadrodd ac mae’r mab yn dod yn dad a'r tad yn daid ac yn y blaen. Dim ond tair cenhedlaeth sydd eu hangen a gellir ail ddefnyddio'r ffeiliau arall. Fel rheol fe ddefnyddir y system hon ar gyfer tapiau, er y gellir ei defnyddio ar gyfer disgiau. Gwarchodaeth yw system ategu Taid, Tad a Mab.