Syr John Wynn

Oddi ar Wicipedia
Syr John Wynn
Ganwyd1553 Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mawrth 1627, 1 Mawrth 1626 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Member of the 1586-87 Parliament Edit this on Wikidata
TadMorys Wynn ap John Edit this on Wikidata
MamJane Bulkeley Edit this on Wikidata
PriodSidney Gerard Edit this on Wikidata
PlantSyr Richard Wynn, 2ail Farwnig, Owen Wynn, Henry Wynn, William Wynn, Mary Wynn Edit this on Wikidata
LlinachTeulu Wynniaid, Gwydir Edit this on Wikidata
Am bobl eraill o'r enw John Wynn, gweler John Wynn (gwahaniaethu).

Barwnig, Aelod seneddol, a hynafiaethydd o Gymru oedd Syr John Wynn (15531 Mawrth 1627). Yn fab ac etifedd i Morys Wynn ap John, perchennog ystâd Gwydir, hawliodd ei fod yn ddisgynnydd uniongyrchol ac etifedd tywysogion Gwynedd trwy Rhodri ab Owain Gwynedd. Mae'n debygol iddo gael ei eni yng Ngwydir, ger Llanrwst, Dyffryn Conwy.

Gyrfa a chymeriad[golygu | golygu cod]

Cafodd ei addysg yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen, ac etifeddodd ystad Gwydir yn 1580. Daeth yn aelod seneddol dros Sir Gaernarfon yn 1586. Yn 1606 cafodd ei urddo yn farchog ac yn 1611 cafodd ei wneud y cyntaf o'r barwnigion Wynn. Am bron hanner canrif bu'n flaengar yng ngwleidyddiaeth Sir Gaernarfon a gogledd Cymru. Cymerodd ddiddordeb mewn gweithio mwyngloddiau lleol a datblygiadau masnachol eraill. Roedd yn ysgolhaig a noddwr ysgolheigion yn ogystal, ac ymroddodd i astudiaethau hynafiaethol a hanes Gwynedd. Yn Llanrwst, sefydodd Syr John ysbyty a rhoddodd arian at gynnal ysgol ramadeg newydd (Ysgol Rad Llanrwst). Ei fab oedd Syr Richard Wynn, a gododd Blas Mawr yng Nghonwy.

Ymddengys nad oedd Syr John yn boblogaidd iawn. Cafodd enw am fod yn gyfrwys a dichellgar. Roedd yn uchelwr ariangar gyda llygad am gyfleuon masnach. Yn ogystal â hapchwarae ym mwyngloddiau'r fro, roedd ganddo fusnes hel perlau o Afon Conwy. Ef oedd y cyntaf i awgrymu codi morglawdd dros geg y Traeth Mawr, Porthmadog, mewn llythyr i'w gyfaill Syr Hugh Middleton o Ddinbych. Cafwyd anghydfod rhyngddo a'r Esgob William Morgan ynglŷn â phrydles am dir ger Llanrwst. Arohosodd blas drwg ar eu perthynas ar ôl hynny, gyda Syr John yn hawlio'r clod am gael swydd Esgob Llanelwy i William Morgan.

Ar ôl ei farwolaeth tyfodd chwedl werin leol sy'n adrodd fod ei ysbryd aflonydd wedi ei gaethiwo dan Rhaeadr Ewynnol (ger Betws-y-Coed), iddo gael ei olchi a'i buro oddi wrth ei weithredoedd drwg! Ond cofier iddo sefydlu ysbyty i'r tlodion yn Llanrwst ac ariannu ysgol yno.

Gwaith hynafiaethol[golygu | golygu cod]

Ei gyfraniad mawr i astudiaethau ar hanes Cymru yw ei gyfrol enwog History of the Gwydir Family, a fu'n boblogaidd iawn yng ngogledd Cymru. Prif amcan Syr John wrth sgwennu'r llyfr oedd cadarnhau ei hawl i fod yn ddisgynnydd uniongyrchol i dywysogion Gwynedd ac felly o linach brenhinol. Ond ymddengys iddo wyrio rhai o'r achau yn y llyfr i brofi hynny ac nid oedd pawb yn barod i dderbyn ei honiadau. Cyflwynodd Tomos Prys o Blas Iolyn achos llys yn ei erbyn a bu rhaid i Syr John amddiffyn ei hun yn y llys. Ond enillodd yr achos a chafodd ei gydnabod fel prif etifedd gwrywaidd Talaith Gwynedd ac felly, yn ôl Cyfraith Hywel, yn Dywysog de jure Gwynedd. Fodd bynnag, roedd disgynyddion Dafydd Goch, mab llwyn a pherth Dafydd ap Gruffudd, yn hawlio'r fraint honno yn ogystal. Arosodd llyfr Syr John Wynn mewn llawysgrifau (ceir sawl copi) hyd y 18g. Fe'i cyhoeddwyd am y tro cyntaf gan Dames Barrington yn 1770, a chafwyd sawl argraffiad arall ar ôl hynny. Yn ogystal â bod yn ddarllen difyr, mae'r llyfr yn werthfawr am y portread a geir ynddo o gyflwr cymdeithas yng ngogledd Cymru yn y 15g a dechrau'r 16g.

Ysgrifennodd Syr John gyfrol fechan o atgofion (y Memoirs) sy'n ffynhonnell bwysig am hanes a chymdeithas gogledd Cymru yn ail hanner yr 16eg a dechrau'r 17g. Yn ogystal, ysgrifennodd draethawd ar hynafiaethau ardal Penmaenmawr, sy'n cynnwys y disgrifiad cynharaf o fryngaer Braich-y-Dinas, a gyhoeddwyd yn 1859 dan y teitl An Ancient Survey of Penmaenmawr.

Roedd Syr John yn ymdroi yng nghylchoedd deallusol a llenyddol gogledd Cymru. Gohebai â John Davies, Mallwyd ynglŷn â chyhoeddi geiriadur Lladin-Cymraeg Syr Thomas Wiliems o Drefriw.

Ach gwrywaidd Syr John Wynn o Wydir[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Sir John Wynn: History of the Gwydir Family and memoirs. Gol. J. Gwynfor Jones (Gwasg Gomer, 1990)
  • J. Gwynfor Jones. The Wynn family of Gwydir (Centre for Educational Studies, 1995)
  • E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Gwasg y Brython, 1949)
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
Syr Thomas Mostyn
Custos Rotulorum Sir Gaernarfon
1618–1627
Olynydd:
Syr Richard Wynn
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig
Rhagflaenydd:
Morys Wynn ap John
Penaeth Tŷ Cunedda
1580–1627
Olynydd:
Syr Richard Wynn
Pendefigaeth Lloegr
Rhagflaenydd:
teitl newydd
Barwnig
(Gwydir)
1611–1626
Olynydd:
Syr Richard Wynn